Y Dywysoges Siwan
gwraig Llywelyn Fawr a merch John, brenin Lloegr / From Wikipedia, the free encyclopedia
Y Dywysoges Siwan (Saesneg: Joan) (tua 1195 – 2 Chwefror 1237), merch ordderch y Brenin John o Loegr, oedd gwraig Llywelyn Fawr, Tywysog Cymru. Roedd hi'n hanner-chwaer i Harri III, brenin Lloegr, ac yn fam i'r Tywysog Dafydd ap Llywelyn a olynodd Llywelyn Fawr yn 1237 (credir mai Tangwystl Goch oedd mam ei frawd Gruffudd). Fe'i cofir yn bennaf am hanes ei charwriaeth gyda'r arglwydd Normanaidd Gwilym Brewys ond bu ganddi ran bwysig yng ngwleidyddiaeth y cyfnod hefyd fel cynghorwraig i Lywelyn yn ei gyngor a'i lys ac yn llysgennad drosto.
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Y Dywysoges Siwan | |
---|---|
Ganwyd | 1191 Ffrainc |
Bu farw | 2 Chwefror 1237, 1237 Cymru |
Galwedigaeth | pendefig |
Swydd | tywysoges gydweddog |
Tad | John, brenin Lloegr |
Mam | Clementina |
Priod | Llywelyn Fawr |
Plant | Dafydd ap Llywelyn, Elen ferch Llywelyn, Angharad ferch Llywelyn, Gwladus Ddu |
Llinach | Llinach y Plantagenet |
Cau