From Wikipedia, the free encyclopedia
Papur newydd Cymraeg y Wladfa, Patagonia, yw Y Drafod. Dechreuwyd y papur gan Lewis Jones yn Ionawr 1891. Ymddangosai'r papur bob pythefnos, ac roedd yn cynnwys ysgrifau ar bynciau gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol, ynghyd â newyddion o'r Wladfa ei hun, o Buenos Aires ac o Gymru.
Enghraifft o'r canlynol | papur wythnosol |
---|---|
Golygydd | Lewis Jones, Eluned Morgan |
Rhan o | Papurau Newydd Cymreig Ar-lein |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 17 Ionawr 1891 |
Dechrau/Sefydlu | 17 Ionawr 1891 |
Lleoliad cyhoeddi | Trelew |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
Sylfaenydd | Lewis Jones |
Pencadlys | Trelew |
Parhaodd Lewis Jones fel golygydd hyd 1893. Yn y flwyddyn honno, daeth ei ferch Eluned Morgan yn olygydd. Bu nifer o bobl amlwg yn hanes y Wladfa yn golygu'r Drafod, yn eu plith, yn fwy diweddar, Irma Hughes de Jones.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.