![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/William_Morris_age_53.jpg/640px-William_Morris_age_53.jpg&w=640&q=50)
William Morris (1834–1896)
From Wikipedia, the free encyclopedia
Pensaer, dylunydd, arlunydd, bardd a sosialydd Seisnig oedd William Morris (24 Mawrth 1834 – 3 Hydref 1896).
William Morris | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 24 Mawrth 1834 ![]() Walthamstow, Llundain ![]() |
Bu farw | 3 Hydref 1896 ![]() Llundain ![]() |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, y Deyrnas Unedig ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | pensaer, bardd, cynllunydd, dylunydd graffig, arlunydd, awdur ffuglen wyddonol, gwleidydd, darlunydd ![]() |
Adnabyddus am | Y Tŷ Coch, A Dream of John Ball, Willow Boughs, Strawberry Thief ![]() |
Arddull | Y celfyddydau addurnol ![]() |
Plaid Wleidyddol | Ffederasiwn Democrataidd Sosialaidd, Socialist League ![]() |
Mudiad | y Mudiad Celf a Chrefft, Symbolaeth (celf) ![]() |
Priod | Jane Morris ![]() |
Gwefan | https://williammorrissociety.org ![]() |
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/b5/George_Frederic_Watts_portrait_of_William_Morris_1870_v2.jpg/320px-George_Frederic_Watts_portrait_of_William_Morris_1870_v2.jpg)
- Am bobl eraill o'r un enw, gweler William Morris.
Ganed ef yn Walthamstow, yn fab i William Morris a'i wraig Emma Morris. Aeth i Brifysgol Rhydychen ac yn 1856, daeth yn brentis i'r pensaer Neo-Gothig G. E. Street.
Cynlluniodd Morris gartref i'w deulu, Y Tŷ Coch yn Bexley, Caint, lle trigodd y cwpl ifanc rhwng 1859-1865, cyn symud i Bloomsbury, canol Llundain, mae'r Ty bellach dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ym 1861, sefydlodd Morris gwmni celfyddydau addurnol gydag Edward Burne-Jones, Rossetti, Webb, ac eraill: daeth cwmni Morris, Marshall, Faulkner & Co. yn ffasiynol iawn ac roedd llawer o alw am eu gwaith. Dylanwadodd y cwmni'n fawr ar addurno mewnol drwy gydol y cyfnod Fictoraidd, gyda Morris yn dylunio tapestrïau, papur wal, ffabrigau, dodrefn, a ffenestri lliw. Ym 1875, cymerodd Morris reolaeth lwyr dros y cwmni, a ailenwyd yn Morris & Co.
Er iddo gadw prif gartref yn Llundain, o 1871 Morris enciliodd i dŷ gwledig ar rent sef Kelmscott Manor, Swydd Rydychen. Bu ymweliadau Morris â Gwlad yr Iâ yn ddylanwad mawr arno ac ar y cyd gyda Eiríkr Magnusson cynhyrchodd cyfres o gyfieithiadau Saesneg o'r Sagâu Islandeg.
Cyhoeddodd nifer o gyfrolau o farddoniaeth, ffuglen ac addasiadau o destunau canoloesol, yn cynnwys The Defence of Guenevere and Other Poems (1858), The Earthly Paradise (1868–1870), A Dream of John Ball a News from Nowhere. Sefydlodd y Cynghrair Sosialaidd yn 1884.