![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/a/a8/William_Laud.jpg/640px-William_Laud.jpg&w=640&q=50)
William Laud
archesgob Caergaint (1573-1645) / From Wikipedia, the free encyclopedia
Clerigwr o Sais a ddaeth yn Archesgob Caergaint ac yn un o'r bobl mwyaf dylanwadol yn Lloegr ei ddydd oedd yr Archesgob William Laud (7 Hydref, 1573 – 10 Ionawr, 1645). Roedd yn gefnogwr selog i'r Brenin Siarl I o Loegr, a anogwyd ganddo i gredu mewn hawl dwyfol brenhinoedd. Arweiniodd ei gefnogaeth i Siarl, brenhiniaeth absoliwt, a'i erledigaeth ar bobl a ddaliai farn wahanol, i'w ddienyddio trwy dorri ei ben yng nghanol Rhyfel Cartref Lloegr.
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
William Laud | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 7 Hydref 1573 ![]() Reading ![]() |
Bu farw | 10 Ionawr 1645 ![]() o pendoriad ![]() Tower Hill ![]() |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | offeiriad Anglicanaidd, diwinydd, ysgrifennwr ![]() |
Swydd | Archesgob Caergaint, Esgob Llundain, Esgob Caerfaddon a Wells ![]() |
Dydd gŵyl | 10 Ionawr ![]() |
llofnod | |
![]() |
Cau
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/7/78/Portrait_of_Laud_%284673352%29.jpg/640px-Portrait_of_Laud_%284673352%29.jpg)
Gwasanaethodd Laud fel Esgob Tyddewi rhwng 1621 a 1627. Ei gaplan oedd y Cymro Morgan Owen, o Fyddfai, a ddaeth yn Esgob Llandaf yn ddiweddarach diolch i Laud.