Wicipedia:WiciBrosiect Addysg/Erthyglau Drafft/Fforwyr
From Wikipedia, the free encyclopedia
Person sydd yn chwilio neu ymchwilio er mwyn darganfod gwybodaeth neu adnoddau yw Fforiwr.
Mae fforio wedi bod yn rhan annatod o fodolaeth dynoliaeth ar y ddaear a thu hwnt wrth ddarganfod am y byd o gwmpas, er enghraifft, anturiaethau fforio y Groegiaid a’r Rhufeiniaid yng ngogledd Ewrop. Fe wnaeth fforwyr Groegiaid amgylchynu Ynys Prydain am y tro gyntaf yn y 4edd ganrif. Roedd y Rhufeiniaid a'r Tsieineaid hefyd yn fforwyr cynnar llwyddianus, yn dogfennu tiroedd newydd a'u pobl.
O tua 800 AD ymlaen dechreuodd y Llychlynwyr archwilio Ewrop a hwylio i diroedd newydd gan gynnwys Gwlad yr Iâ a Newfoundland. Yn y dwyrain, arweiniodd fforio at sefydliad y Ffordd y Sidan, rhwydwaith o ffyrdd a ddefnyddid ar gyfer masnach rhwng Tsieina a'r Dwyrain Canol. Cafodd y llwybrau yma ei ddogfennu gan yr archwiliwr Marco Polo yn y 13eg ganrif.[1]
Gyda dyfodiad y 15fed ganrif hyd at y 17eg ganrif roedd hwn yn gyfnod pan fu fforwyr o Ewrop, yn enwedig Sbaen a Phortiwgal, yn anturio ar draws Cefnfor yr Iwerydd i'r Amerig. Dyma oedd Oes y Darganfod. Yn nes ymlaen yn y 17eg ganrif a’r 18fed ganrif helpodd fforio gwblhau gwybodaeth dynoliaeth am fap cyfan y byd, er enghraifft, cyrion Asia a fyny i Alaska, a chyfandiroedd Awstralia a’r Antartig. Bu fforio a darganfod cyson yn nhiroedd America gan y Ewropeaid yn y 19eg ganrif a thechnoleg newydd yn caniatau fforio a darganfod yn y bydysawd a’r planedau tu hwnt i’r ddaear yn yr 20fed ganrif.