- Y polisi canlynol yw'r Polisi Gwerseb Eithrio (Exemption Doctrine Policy) ar yr Wicipedia Cymraeg, ac sy'n cyfateb â phenderfyniad Sefydliad Wikimedia ar 23 Mawrth, 2007.
- Cefnogi nod Wicipedia o gynhyrchu deunydd sy'n barhaol rydd, y gall unrhyw ddefnyddiwr ei ddosbarthu, ei addasu a'i ddefnyddio mewn unrhyw gyfrwng, a hynny heb gyfyngiad.
- Gwarchod rhag achosion o erlyn cyfreithiol trwy osod terfynau ar y defnydd a wneir o gynnwys cyfyngedig (neu 'di-rydd) a defnydd teg, gan ddefnyddio meini prawf sy'n unol â gofynion cyfraith UDA ar ddelio teg.
- Hyrwyddo defnyddio cynnwys cyfyngedig nad yw'n rhydd yn synhwyrol er mwyn cynnal y gwaith o greu gwyddoniadur o safon uchel.
Ystyr "cynnwys cyfyngedig" neu "di-rydd" yng nghyswllt y polisi hwn yw'r holl ddelweddau, y clipiau sain a fideo a'r ffeiliau cyfrwng eraill sydd â hawlfraint arnynt nad yw'n drwydded cynnwys rhydd. Os am ddefnyddio cynnwys cyfyngedig ar Wicipedia rhaid sicrhau yn gyntaf bod y meini prawf canlynol wedi eu digoni.
Nid oes hawl awtomatig i ddefnyddio cynnwys rhydd, di-rydd mewn erthygl nac mewn mannau eraill ar Wikipedia. Gall erthyglau a thudalennau Wikipedia eraill, yn unol â'r canllaw, ddefnyddio dyfyniadau testun byr air-am-air o gyfryngau sydd dan hawlfraint, eu priodoli neu eu dyfynnu'n briodol i'w ffynhonnell neu awdur gwreiddiol (fel y disgrifir gan y canllaw dyfynnu), ac a nodir yn benodol fel dyfyniadau uniongyrchol drwy ddyfynbrisiau, <blockquote></blockquote>
, {{Dyfyniad}}
neu ddull tebyg. Gellir defnyddio cynnwys arall nad yw'n rhydd—gan gynnwys pob delwedd dan hawlfraint, clipiau sain a fideo, a ffeiliau cyfryngau eraill nad oes ganddynt drwydded cynnwys rhydd ar Wicipedia Cymraeg dim ond lle y bodlonir pob un o'r 10 maen prawf canlynol.
- Dim cynnwys cyfwerth rhydd ar gael. Defnyddir cynnwys cyfyngedig yn unig pan nad oes deunydd rhydd ar gael neu y gellid ei greu, y byddai'n cyfleu yr un gwybodaeth gwyddoniadurol â'r cynnwys cyfyngedig. Os oes modd trawsnewid y cynnwys cyfyngedig i fod yn rhydd, gwneir hyn, yn hytrach na chyfiawnhau defnyddio'r cynnywys cyfyngedig. Os oes modd defnyddio cynnwys arall o safon dderbyniol, gwneir hynny: ystyr "safon dderbyniol" yw bod safon y deunydd yn ddigon da i gyflwyno'r gwybodaeth gwyddoniadurol. (Cyn uwchlwytho cynnwys cyfyngedig sydd yn rhaid ei gyfiawnhau, gallwch bwyso a mesur drwy holi'r cwestiynau canlynol i chi'ch hun -
- A oes modd cyfnewid y cynnwys cyfyngedig am gynnwys rhydd sy'n ateb yr un pwrpas?
- A ellid egluro'r pwnc trwy eiriau'n unig, heb ddefnyddio'r cynnwys cyfyngedig?
Os oes modd gwneud hyn, yna nid yw'n debyg bod cyfiawnhad dros ddefnyddio'r cynnwys cyfyngedig.)
- Parchu cyfle masnachol. Ni ddefnyddir cynnwys cyfyngedig mewn modd a fyddai'n debygol o amharu ar gyfle marchnata'r deunydd gwreiddiol sydd o dan hawlfraint.
-
- Defnyddio cyn lleied o eitemau o gynnwys cyfyngedig â phosib. Ni ddefnyddir rhagor nag un eitem o gynnwys cyfyngedig pan fo un eitem yn cyfleu'r cwbwl o'r wybodaeth sydd o ddefnydd i'r erthygl.
- Defnyddio cyn lleied o'r eitem cynnwys cyfyngedig â phosib. Ni ddefnyddir y cwbwl o'r gwaith gwreiddiol pan fo darn ohono'n ddigon at y pwrpas. Defnyddir datrysiad/cywirdeb/cyfradd ddigidol isel yn hytrach nag uchel. Mae'r rheol hon hefyd yn cyfeirio at y copi o'r deunydd ar y parth Delwedd: .
- Eisoes wedi ei gyhoeddi. Dylai'r cynnwys cyfyngedig fod wedi ei gyhoeddi eisoes rhywle heblaw Wicipedia, heblaw bod deilydd y drwydded yn caniatau gosod y deunydd ar Wicipedia.
- Cynnwys. Dylai cynnwys cyfyngedig gwrdd â gofynion cyffredinol cynnwys ar Wicipedia, a dylai fod o natur gwyddoniadurol.
- Polisi penodol y cyfrwng. Dylai'r deunydd gyfateb â pholisi Wicipedia ar gyfer y cyfrwng hwnnw (y polisïau hyn i'w datblygu maes o law).
- Cynhwysir mewn un erthygl o leiaf. Rhaid bod y cynnwys cyfyngedig yn cael ei ddefnyddio mewn o leiaf un erthygl.
- Gwerth. Dylid defnyddio cynnwys cyfyngedig yn unig pan fod y deunydd yn werthfawr o ran cyfleu gwybodaeth am bwnc yr erthygl i'r darllenydd a dealltwriaeth ohono, a phe byddai peidio â'i gynnwys yn amharu ar y dealltwriaeth hwnnw.
- Cyfyngiad ar barthau. Caniateir defnyddio cynnwys cyfyngedig dim ond mewn erthyglau (ac nid tudalennau gwahaniaethu), a dim ond yn y parth erthyglau. (Er mwyn atal delweddau bawd rhag ymddangos ar dudalennau categori, ysgrifennwch __DIMGALERI__ i'r dudalen gategori. Defnyddiwch gysylltiad wici at ddelwedd wrth ei drafod ar dudalen sgwrs, yn hytrach na'r llun ei hun.)
- Tudalen ddisgrifiad y ffeil. Dylai dudalen ddisgrifiad y ffeil gynnwys y canlynol:
- Enwau ffynhonell y deunydd a deilydd yr hawlfraint arno, os yn wahanol. Gweler: cymorth Wikipedia Saesneg.
- Tag hawlfraint sy'n egluro ar ba ran o'r polisi yr ydych yn pwyso i gyfiawnhau defnydd y ffeil.
- Enwau'r erthyglau lle y defnyddir y ffeil, gyda chyfiawnhad dros ddefnyddio'r ffeil ar gyfer pob un o'r erthyglau - gweler canllaw Wikipedia Saesneg. Dylai pob un cyfiawnhad fod yn rhwydd ei ddeall ac yn berthynasol i'r erthyglau.
- Ni ddilëir ffeil pan nad oes cyfiawnhad dilys dros ei ddefnyddio mewn rhai erthyglau, pan fod cyfiawnhad dilys dros ei ddefnyddio mewn o leiaf un erthygl arall. Yn lle hynny, dylid naill ai dileu'r ffeil o'r erthyglau lle nad oes cyfiawnhad iddo fod, neu ychwanegu cyfiawnhad dilys.
- Gellir dileu ffeil o gynnwys cyfyngedig na ddefnyddir mewn unrhyw erthygl ar ôl saith diwrnod wedi i'r un a uwchlwythodd y ffeil gael gwybod.
- Bydd ffeiliau a chaiff eu huwchlwytho ar ôl (dyddiad derbyn y polisi hwn) sy'n cael eu defnyddio mewn erthygl ac sydd ddim yn dilyn gofynion y polisi hwn yn cael eu dileu ar ôl 48 awr wedi i'r un a'i uwchlwythodd gael gwybod. Er mwyn osgoi cael ei ddileu, rhaid i'r un a uwchlwythodd y ffeil neu wicïwr arall roi cyfiawnhad dilys sy'n cwrdd â phob un o'r deg maen prawf uchod. Pan fo'r ffeil wedi ei uwchlwytho cyn (dyddiad derbyn y polisi hwn), rhoddir pythefnos o rybudd yn hytrach na 48 awr.
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.