Wicipedia:Deffro'r Ddraig

From Wikipedia, the free encyclopedia

Rhagor o wybodaeth Llwybr(au) brys: WP:DRAIG ...
Cau

Croeso!
cystadleuaeth a golygathon ddwyieithog i wella erthyglau Wicipedia ar Gymru a materion Cymreig ym mis Ebrill 2016...

Castell Penfro Stadiwm y Mileniwm Y Ddraig Goch Bannau Brycheiniog Llandudno
Eglwys Gadeiriol Llandaf Ivor Novello Castell Caerdydd Rhosili Dylan Thomas Gregynog, Powys
Rhagor o wybodaeth Ble a Phryd?, Dyddiad ...
  • Cystadleuaeth a golygathon a gynhelir o 1 Ebrill i 1 Mai, 2016 y gall unrhyw un yn y byd gymryd rhan ynddo. Dim ond golygiadau a wneir yn ystod mis Ebrill fydd yn ennill pwyntiau yn y brif gystadleuaeth.
  • Gallwch greu neu ychwanegu at unrhyw erthygl o'ch dewis sy'n ymwneud â Chymru. Bwriad y prosiect yw deffro'r ddraig o'i thrymgwsg gyda dilyw o gynnwys newydd am Gymru!
  • Enillwch hyd at o docynnau-rhodd gwerth £200 Amazon am greu'r nifer fwyaf o erthyglau, am y gwaith o'r ansawdd orau neu am gymryd y nifer fwyaf o luniau er mwyn parhau i wella'r cynnwys ar Gymru yn yr hir dymor!
  • Enillwch bwyntiau ychwanegol ar gyfer gweithiau ar yr erthyglau hanfodol a'r rhai sydd angen sylw arbennig. Enillwch bwyntiau pellach ar gyfer creu erthyglau am ferched Cymru mewn cydweithrediad â golygathon WikiProject Women in Red.
  • Hyd yn oed os nad yw cystadlaethau a gwobrwyon at eich dant chi, gallwch dal gyfrannu yn y golygathon ar eich cyflymdra eich hun a datgan eich hun yn olygydd sy'n cymryd rhan yn y golygathon cyffredinol yn hytrach nag yn y gystadleuaeth ei hun.
  • Gallwch gyfrannu yn Gymraeg neu yn Saesneg; am y dudalen Saesneg gweler fan hyn.

Gwobrwyon

Rhedir y gystadleuaeth â chyllideb o £250. Bydd tocynnau rhodd Amazon gwerth £100 yn cael eu rhoi i'r golygydd sy'n ennill y nifer fwyaf o bwyntiau yn y gystadleuaeth dros y mis. Bydd yr ail orau yn ennill tocynnau rhodd gwerth £50. Bydd y £100 sy'n weddill yn cael ei wario ar y gwobrwyon arbennig canlynol:

  • Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig ar gyfer pwy bynnag sy'n ehangu'r nifer fwyaf o erthyglau (lleiafswm o 3 KB o ryddiaith wedi'i ychwanegu) sydd â nodyn eginyn cyn yr ychwanegiad.
  • Y llyfr 100 Great Welsh Women ar gyfer pwy bynnag sy'n creu'r nifer fwyaf o erthyglau (lleiafswm 1.5 KB) neu ychwanegiadau (lleiafswm 3 KB) o fywgraffiadau o ferched.
  • Tocyn rhodd gwerth £20 ar gyfer pwy bynnag sy'n gwneud y nifer fwyaf o adolygiadau Erthygl Da ar gyfer cynnwys am Gymru yn ystod y mis (ar y Wicipedia Saesneg).
  • Plât â 20 o bice ar y maen cartref ar gyfer pwy bynnag sy'n gwella'r erthygl en:Welsh cuisine i statws Erthygl Da a sy'n creu Rhestr bwytai yng Nghymru sy'n weddol gynhwysfawr gyda thriniaeth gryno o o leiaf 20 o'r bwytai mwyaf nodedig. Os ydych yn ymuno â'r gystadleuaeth byddwch yn ennill 50 pwynt ychwanegol ar ben beth a gewch ar gyfer ysgrifennu Erthygl Dda ac ymgymryd ag erthygl hanfodol Lefel 1.

Cystadleuwyr a chyfraniadau at y gystadleuaeth

Rheolau a sgorio

Prif: [[::en:Wikipedia:WikiProject Wales/Awaken the Dragon/Rules and scoring|:en:Wikipedia:WikiProject Wales/Awaken the Dragon/Rules and scoring]]
Prif: [[::en:Wikipedia:WikiProject Wales/Awaken the Dragon/Scoreboard|:en:Wikipedia:WikiProject Wales/Awaken the Dragon/Scoreboard]]

Erthyglau hanfodol

Erthyglau coll

Mae croeso i chi greu unrhyw erthygl sy'n ymwneud â Chymru ac sy'n ateb gofynion Wicipedia:Amlygrwydd. Rhaid fod gan erthyglau newydd leiafswm o 1.5 KB o ryddiaith (h.y. nid côd) er mwyn bod yn ddilys ar gyfer y gystadleuaeth. Gwobrwyir pwyntiau ychwanegol ar gyfer golygwyr sy'n dechrau erthygl sydd wedi'i restru ar y rhestr o erthyglau coll, a fydd yn nodi clystyrau o erthyglau sydd ar alw uchel i gael eu creu, er enghraifft adeiladau rhestredig, bywgraffiadau o bobl nodedig a.y.y.b. Gweler hefyd y rhestr gyffredinol o erthyglau coll yn y Saesneg.

Ffotograffau

Gall golygwyr ennill pwyntiau pellach ar gyfer ychwanegu'r lluniau a geisir ar y rhestr ffotograffau coll.

Golygathon yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Golygathon Deffro'r Ddraig
Ble a Phryd?
DyddiadDydd Gwener, 22 Ebrill 2016
Amser10:00 am – 3:00 pm
CyfeiriadLlyfrgell Genedlaethol Cymru
Heol Penglais
DdinasAberystwyth SY23 3BU, Cymru

Bydd y golygathon hwn, a gynhelir gan Jason Evans, yn rhedeg o 10:00 y.b. i 3:00 y.h. yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, ar 22 Ebrill 2016. Bydd y digwyddiad yn canolbwyntio ar ddefnyddio casgliad enfawr y Llyfrgell Genedlaethol o adnoddau ar-lein a materol. Bydd cinio rhad ac am ddim i'r cyfranogwyr, ond gofynir i chi ddod â'ch gliniadur eich hun! Os hoffech ddod i'r digwyddiad cofrestrwch fan hyn os gwlewch yn dda. Rydym yn annog cyfranogwyr nid yn unig i olygu yn y digwyddiad ar y dydd ond hefyd i gyfrannu at Wicipedia drwy gydol y mis ac yn fwy rheolaidd. Os oes gennych chi gwestiynau am ddod i'r digwyddiad neu am lyfrau, gofynnwch i Defnyddiwr:Jason.nlw am gymorth.

Mis Gwyddoniaeth a Merched

Ym mis Ebrill mae WikiProject Women in Red, prosiect ar y Wicipedia Saesneg a sefydlwyd er mwyn creu erthyglau coll am ferched, yn cynnal golygathon am Ferched a'r Gwyddorau. Rhoir ystyriaeth arbennig i'r golygwyr hynny sy'n cyfrannu erthyglau am ferched Cymreig yn ystod y mis.

Erthyglau

Gweler en:Wikipedia:WikiProject Wales/Awaken the Dragon/Women biographies

Beirniaid

Dr. Blofeld fydd yn beirniadu'r gystadleuaeth.

Cystadleuwyr a chyfranogwyr

Yn y gystadleuaeth

Cofrestrwch yma os gwelwch yn dda os hoffech gymryd rhan yn y gystadleuaeth i ennill hyd at £200 mewn tocynnau rhodd Amazon a llyfrau am Gymru.

Yn y golygathon

Os nad yw cystadlaethau a gwobrwyon at eich dant, ond hoffech chi dal gyfrannu erthyglau am Gymru, cofrestrwch yma os gwelwch yn dda. Mae croeso i bawb!

Contest award

The Wales Barnstar of National Merit

Thankyou to everybody on Welsh wikipedia who contributed to the April 2016 Awaken the Dragon contest!! Though none of you finished in the top 10 you've done some excellent work and this is to be encouraged for future contests. Thankyou for the work you've put in during this, it is much appreciated! :-) ♦ Dr. Blofeld 16:16, 3 May 2016 (UTC)
Cau

Wikiwand in your browser!

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.

Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.