Traddodiad Wicaidd modern yw Wica Geltaidd, sy'n defnyddio rhai elfennau o fytholeg Geltaidd.[1][2] [3] Mae'n rhannu'r un ddiwinyddiaeth, defodau, a chredoau ag sydd gan draddodiadau eraill o Wica,[1][2] ond gan ddefnyddio enwau duwiau, ffigyrau mytholegol, a gwyliau tymhorol y Celtiaid o fewn fframwaith a system gredoau Wicaidd,[1][4] yn hytrach nag un Geltaidd draddodiadol neu hanesyddol.[3][5]
Wica Geltaidd | |
---|---|
Talfyriad | CW |
Math | Wica ac Wica Eclectig |
Gorweddiad | Neo-baganiaeth Geltaidd |
Llywodraethu | Offeiriadaeth |
Sylfaenydd | Gerald Gardner |
Tarddiad | 1950au Lloegr |
Aelodau | Anhysbys |
Tarddiadau
Nid oedd Wica, fel y sefydlwyd gan Gerald Gardner yn y 1950au,[3][5][6] yn Geltaidd ei natur, ond yr oedd yn cynnwys dylanwadau a benthyciadau o ffynonellau Celtaidd.[1] Mae Wica "Geltaidd" yn pwysleisio ar agweddau Wica Gardneraidd y mae ymarferwyr yn credu eu bod yn Geltaidd, ac ar yr un pryd yn peidio â phwysleisio ar yr hyn y maent yn ei gredu nad yw'n Geltaidd, megis addoli duwiau diwylliannau eraill.[1][2]
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.