![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/4/4e/Warner_Bros._logo_2023.svg/langcy-640px-Warner_Bros._logo_2023.svg.png&w=640&q=50)
Warner Bros.
From Wikipedia, the free encyclopedia
Cynhyrchydd ffilmiau a rhaglenni teledu Americanaidd ydy Warner Bros. Entertainment, Inc. (a adwaenir hefyd fel Warner Bros. Pictures, neu'n syml Warner Bros. — mae'r enw Warner Brothers a ddefnyddir yn aml yn anghywir.[1]).
Ffeithiau sydyn Math, Diwydiant ...
![]() | |
Math | cwmni cynhyrchu ffilmiau |
---|---|
Diwydiant | adloniant, creu ffilmiau, y diwydiant gemau fideo |
Sefydlwyd | 4 Ebrill 1923 |
Sefydlydd | Albert Warner, Harry Warner, Sam Warner, Jack Warner |
Pencadlys | Burbank |
Pobl allweddol | Barry Meyer (Prif Weithredwr) |
Cynnyrch | ffilm |
Rhiant-gwmni | Warner Media Group |
Is gwmni/au | Warner Music Group |
Lle ffurfio | Los Angeles |
Gwefan | https://www.warnerbros.com/ ![]() |
Cau
Fel un o'r prif stiwdios ffilm, mae'n îs-gwmni i Time Warner, ac mae ganddo'i bencadlys yn Burbank, Califfornia ac yn Ninas Efrog Newydd. Mae gan Warner Bros. nifer o îs-gwmnïau, gan gynnwys Warner Bros. Studios, Warner Bros. Pictures, Warner Bros. Interactive Entertainment, Warner Bros. Television, Warner Bros. Animation, Warner Home Video, New Line Cinema, TheWB.com, a DC Comics. Mae Warner hefyd yn berchen ar hanner y The CW Television Network.