Dinas hanesyddol yng ngogledd-orllewin Rwsia yw Veliky Novgorod (Rwsieg Вели́кий Но́вгород). Lleolir ar Afon Volkhov, 6 km i'r de o Llyn Ilmen ac 552 km i'r gogledd-orllewinol o ddinas Moscfa. Canolfan weinyddol Oblast Novgorod yw hi.

Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...
Velikiy Novgorod
Thumb
Thumb
Mathtref/dinas, dinas fawr, okrug ddinesig Edit this on Wikidata
Poblogaeth216,856, 215,351, 218,717, 219,947, 219,925, 219,971, 221,954, 221,868, 222,594, 224,286 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 859 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethJurij Bobrysjev, Sergey Vladimirovich Busurin, Alexander Rozbaum Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+03:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Daearyddiaeth
SirOblast Novgorod Edit this on Wikidata
GwladBaner Rwsia Rwsia
Arwynebedd90.08 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr25 metr Edit this on Wikidata
GerllawLlyn Ilmen, Afon Volkhov Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaNovgorodsky District Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau58.52099°N 31.27579°E Edit this on Wikidata
Cod post173000–173999 Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethJurij Bobrysjev, Sergey Vladimirovich Busurin, Alexander Rozbaum Edit this on Wikidata
Thumb
Cau

Mae Novgorod ymysg dinasoedd hynaf Rwsia. Mae'r cyfeiriad cyntaf ati mewn brut Rwsiadd yn dyddio i'r flwyddyn 859, a cheir cyfeiriadau ati mewn ffynonellau tramor yn gynharach fyth. Yn yr Oesoedd Canol roedd hi'n ddinas fasnachol bwysig dan arweinyddiaeth y veche, cyngor dinasyddion, mewn cyfundrefn weriniaethol. Chwaliwyd Gweriniaeth Novgorod ym 1478, pryd cipiwyd y ddinas a'i hychwanegu at deyrnas Muscovy gan Ifan III.

Ystyr yr enw Novgorod yw 'Dinas Newydd'. Hyd 1999 enw swyddogol y ddinas oedd Novgorod yn unig, er y defnyddid Velikiy ('Fawr') fel epithed anffurfiol. Ym 1999 newidiwyd yr enw yn swyddogol i Velikiy Novgorod ('Novgorod Fawr'), gan i ddinas Gorky ddychwelyd i'w hen enw, Nizhniy Novgorod ('Novgorod Isaf'), a oedd wedi arwain at ddryswch a chamgymeriadau.

Wikiwand in your browser!

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.

Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.