![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/5/5a/Vanessa_Hudgens_Raiders_%2528cropped%2529.jpg/640px-Vanessa_Hudgens_Raiders_%2528cropped%2529.jpg&w=640&q=50)
Vanessa Hudgens
actores a aned yn 1988 / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Vanessa Anne Hudgens (ganed 14 Rhagfyr 1988) yn actores a chantores Americanaidd. Cafodd ei rôl fawr gyntaf yn 2004 fel Tintin yn y Thunderbirds ac yna chwaraeodd ran Gabriella Montez yn y gyfres o ffilmiau High School Musical.
Vanessa Hudgens | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Vanessa Anne Hudgens ![]() 14 Rhagfyr 1988 ![]() Salinas ![]() |
Man preswyl | Studio City, Los Feliz, Brooklyn ![]() |
Label recordio | Hollywood Records ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, canwr, model, actor ffilm, actor teledu, actor llwyfan ![]() |
Adnabyddus am | High School Musical 2, High School Musical 3: Senior Year, Beastly, Journey 2: The Mysterious Island, Spring Breakers, Grease: Live, High School Musical, The Princess Switch, The Princess Switch: Switched Again, The Princess Switch 3: Romancing the Star, Bad Boys For Life, Bad Boys: Ride or Die ![]() |
Arddull | cerddoriaeth boblogaidd, cerddoriaeth ddawns, cyfoes R&B ![]() |
Taldra | 155 centimetr ![]() |
Priod | Cole Tucker ![]() |
Partner | Austin Butler, Zac Efron ![]() |
Gwefan | https://www.vanessahudgens.com/ ![]() |
llofnod | |
![]() |
Ar ôl yr High School Musical cyntaf, dilynodd Hudgens yrfa gerddorol, gan ryddhau ei halbwm cyntaf ar y 26ain o Fedi, 2006. Aeth yr albwm i rif 24 yn y siart Americanaidd, gan werthu dros 34,000 o gopïau yn ystod yr wythnos gyntaf. Dychwelodd i'w rôl fel Gabriella Montez yn High School Musical 2 a High School Musical 3: Senior Year.
Rhyddhaodd Hudgens ei halbwm "Identified" yn yr Unol Daleithiau ar y 1af o Orffennaf, 2008 ac aeth i rif 23 yn y siart, gan werthu 22,000 o gopïau yn ystod yr wythnos gyntaf. Bydd Hudgens yn portreadu cymeriad Sam yn y ffilm Bandslam, ar ddiwedd mis Gorffennaf, 2009.