Valtellina
From Wikipedia, the free encyclopedia
Dyffryn yn rhanbarth Lombardia yng ngogledd yr Eidal, sy'n ffinio â'r Swistir, yw Valtellina. Heddiw mae'n adnabyddus am ei ganolfan sgïo, sbâu ffynhonnau poeth, bresaola, caws a gwin. Yn yr oes a fu roedd yn llwybr alpaidd allweddol rhwng gogledd yr Eidal a'r Almaen a bu galw mawr am reolaeth yr ardal, yn enwedig yn ystod y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain.
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
Math | dyffryn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Talaith Sondrio |
Gwlad | Yr Eidal |
Gerllaw | Adda |
Cyfesurynnau | 46.17°N 9.87°E |
Cadwyn fynydd | Alpiau Bergamo |
Cau