Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Unol Daleithiau America
tîm rygbi'r undeb UDA / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae tîm rygbi’r undeb Unol Daleithiau America yn cynrychioli’r UDA yn rhyngwladol ym myd chwaraeon rygbi'r undeb. Fe'i dosbarthir gan World Rugby (yr hen Fwrdd Rygbi Rhyngwladol y Byd, IRB) yn yr ail ddosbarth cryfder (ail lefel). Chwaraewyd y gêm ryngwladol gyntaf ym 1912 yn erbyn Awstralia. Mae'r tîm wedi gallu cymhwyso bedair gwaith ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd ac er 2003 mae'n cymryd rhan yng Nghwpan Churchill flynyddol a hefyd bellach, Pencampwriaeth Rygbi yr Americas. Dathlwyd eu llwyddiannau mwyaf gan yr Americanwyr sawl degawd yn ôl, pan ddaethant yn bencampwyr Olympaidd ym 1920 a 1924. Enw Undeb Rygbi Undol Daleithiau America yw USA Rugby.
Ffeithiau sydyn Cwpan y Byd, Ymddangosiadau ...
| |||
Cwpan y Byd | |||
---|---|---|---|
Ymddangosiadau | 7 |
Cau
![Arwyddlun tîm rygbi'r undeb UDA](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/cy/0/0a/Logo_USA_Rugby.svg.png)
Llysenw'r tîm yw USA Eagles.