![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/84/Caf%25C3%25A9_M%25C3%25A9lange%252C_Wien.jpg/640px-Caf%25C3%25A9_M%25C3%25A9lange%252C_Wien.jpg&w=640&q=50)
Tŷ coffi
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae tŷ coffi (neu "gaffi") yn adeilad lle cynigir lluniaeth a byrbrydoedd ac sy'n arbenigo mewn coffi ffres. Mae'r traddodiad tŷ coffi wedi cael ei gadw, yn enwedig yn Fienna a Thwrci.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/84/Caf%C3%A9_M%C3%A9lange%2C_Wien.jpg/640px-Caf%C3%A9_M%C3%A9lange%2C_Wien.jpg)
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/c/c7/Hamburg.Lange.Reihe.Lo.jpg/640px-Hamburg.Lange.Reihe.Lo.jpg)
Adeiladwyd y tai coffi cyntaf yn yr Ymerodraeth Ottoman, yn enwedig yn Nghairo, Damascus ac Aleppo. Y tŷ coffi cyntaf yn Istanbul oedd y tro cyntaf i'r math hwn o siop gyrraedd cyfandir Ewrop.
Sefydlwyd y caffi cyntaf yng ngorllewin Ewrop yn Fenis ym 1647 o dan arcedau Sain Marc. Dilynwyd hwn gan dŷ coffi yn Rhydychen yn 1650. Yn 1652, agorwyd tŷ coffi arall yn Llundain o'r enw "Virginia Coffee-House". Roedd rhai o'r tai coffi hyn yn llefydd poblogaidd iawn, ac yn llefydd cymdeithasol iawn i'r bourgeois. Agorwyd caffis cyffredin ar gyfer ysgolheigion, cyfreithwyr ayyb. Roedd y caffi hefyd yn cynnig gwasanaeth y system bost ("Penny Post") a'r blychau post cyntaf. Mae'r tai bwyta hyn hefyd yn enwog am eu cyfraniad i ddatblygiad y papur newydd. Mae'r Spectator, a gyhoeddwyd gan Joseph Addison a Reed, yn enghraifft gan iddo gael ei olygu yn Button's Coffee-house.
Cafodd tŷ coffi Edward Lloyd gryn ddylanwad ar fyd yswiriannau gwledydd Prydain, gan mai yno y cyfarfu'r dynion a ddaeth ynghŷd i sefydlu'r cwmni yswiriant Lloyd's of London a'r rhestr gychod enwog a elwir yn "Lloyd's Register". Does wnelo'r lle ddim oll a Banc Lloyds, fodd bynnag.