Siambr isaf Senedd y Deyrnas Unedig yw Tŷ'r Cyffredin. Mae'n cynnwys 650 o aelodau (aelodau seneddol neu ASau), wedi'u hethol drwy system 'cyntaf i'r felin' bob pum mlynedd neu yn gynharach os datodir y tŷ gan y prif weinidog ynghynt na hynny. Lindsay Hoyle yw'r Llefarydd presennol.
- Mae AS (DU) yn cyfeirio yma. Am ystyron eraill, gweler AS (gwahaniaethu)
Tŷ'r Cyffredin Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon | |
---|---|
59ain Senedd y DU | |
Gwybodaeth gyffredinol | |
Math | Tŷ Isaf Senedd y Deyrnas Unedig |
Arweinyddiaeth | |
Llefarydd y Tŷ | Gwag |
Prif Weinidog | Syr Keir Starmer, Llafur ers 5 Gorffennaf 2024 |
Arweinydd yr Wrthblaid | Rishi Sunak, Ceidwadwyr ers 5 Gorffennaf 2024 |
Cyfansoddiad | |
Aelodau | 650 |
Grwpiau gwleidyddol | Llywodraeth y DU
Yr Wrthblaid
Eraill
Ymatalwyr
Llefarydd |
Hyd tymor | Hyd at 5 mlynedd |
Etholiadau | |
System bleidleisio | Y cyntaf i'r felin |
Etholiad diwethaf | 4 Gorffennaf 2024 |
Etholiad nesaf | Dim hwyrach na Awst 2029 |
Newid ffiniau | Y Comisiwn Ffiniau |
Man cyfarfod | |
Siambr Tŷ'r Cyffredin Palas San Steffan Dinas Westminster Llundain Y Deyrnas Unedig | |
Gwefan | |
Tŷ'r Cyffredin |
Sefydlwyd Tŷ Cyffredin Lloegr rywbryd yn y 14g gan newid ei henw i 'Dŷ' Cyffredin Prydain Fawr' wedi uno'r Alban a Lloegr yn 1707, a newid unwaith eto yn y 19g i 'Tŷ'r Cyffredin Prydain Fawr ac Iwerddon' wedi'r Ddeddf Uno gydag Iwerddon. Bathwyd y term presennol yn 1922.
Dan Ddeddf 1911, lleihawyd grym Tŷ'r Arglwyddi i wrthod penderfyniadau Tŷ'r Cyffredin. Mae'r Llywodraeth yn swyddogol yn ddarostyngedig i Dŷ'r Arglwyddi - o ran cyfrifoldeb.
Erys y Prif Weinidog yn ei swydd tra bod ganddo/i gefnogaeth mwyafrif aelodau Tŷ'r Cyffredin. Rhoddir sêl bendith ar y Prif Weinidogaeth gan Frenhines y DU; mae'r person hwn fel arfer yn arweinydd y blaid fwyaf, ond nid o angenrheidrwydd. Gelwir arweinydd yr ail blaid fwyaf yn 'Arweinydd Gwrthblaid Ei Mawrhydi'. Ers 1963, drwy gonfensiwn, mae'r Prif Weinidog yn aelod o Dŷ'r Cyffredin yn hytrach na Thŷ'r Arglwyddi.
Daw'r enw 'Cyffredin' (neu 'commons') o'r gair Saesneg communes, sef gwahanol 'gymunedau' oddi fewn i'r Tŷ.[1]
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.