Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Tonga
tîm rygbi'r undeb / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae tîm rygbi'r undeb Tonga yn dwyn ynghyd y chwaraewyr gorau o Tonga yn y Môr Tawel. Mae'r Tongiaid yn chwarae mewn crys coch, siorts gwyn, sannau coch gyda streipen wen.
| |||
Cwpan y Byd | |||
---|---|---|---|
Ymddangosiadau | 7 |
Llysenw tîm Tonga yw Ikale Tahi (Eryrod y Môr). Fel eu cymdogion eraill yn Polynesia y Maorïaid, mae Tongiaid yn gwneud eu cân ddawns a rhyfel (fel yr haka) a fewn-forwyd o'r Ynysoedd Wallis a gelwir yn Kailao. Gelwir y ddawn ryfel benodol cyn y gêm yn Sipi Tau.
Mae Tonga yn rhan o "Gynghrair Rygbi Ynysoedd y Môr Tawel" gyda ffederasiynau Fiji a Samoa.
Er bod y boblogaeth ychydig dros 100,000 a bod llai na 800 o chwaraewyr yn chwarae rygbi yn y categori hŷn, mae gan Tonga dîm cenedlaethol da. Mae llawer o chwaraewyr Tonga wedi symud i ymarfer rygbi yn broffesiynol. Yr enwocaf yw Willy Ofahengaue a Toutai Kefu a chwaraeodd gyda thîm Awstralia, Jonah Lomu ac Isitolo Maka a chwaraeodd gyda'r Crysau Duon.