Trên
From Wikipedia, the free encyclopedia
Cerbyd neu res o gerbydau sy'n teithio ar reilffordd yw trên. Fe'i defnyddir i gludo teithwyr neu nwyddau o un man i fan arall. Yn dechnegol mae'r term yn cyfeirio at res o gerbydau, ond fe'i defnyddir yn anffurfiol i ddisgrifio cerbydau unigol, yn arbennig locomotifau. Hen derm hanesyddol am drên oedd cerbydres.