![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/0/01/TruroCathedral.jpg/640px-TruroCathedral.jpg&w=640&q=50)
Truru
dinas yng Nghernyw / From Wikipedia, the free encyclopedia
Prifddinas, plwyf sifil a chanolfan weinyddol Cernyw, De-orllewin Lloegr, yw Truro[1] (Cernyweg: Truru[2] neu Tryverow). Truro yw'r ddinas fwyaf deheuol yn y Deyrnas Unedig, wedi ei lleoli fymryn yn llai na 232 filltir i'r de-orllewin o Lundain (Charing Cross).
Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...
![]() | |
Math | dinas, tref sirol ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 21,555 ![]() |
Gefeilldref/i | Boppard, Montroulez ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Cernyw ![]() |
Gwlad | ![]() ![]() |
Arwynebedd | 6.21 km² ![]() |
Gerllaw | Afon Hyldreth, Afon Alen ![]() |
Cyfesurynnau | 50.26°N 5.051°W ![]() |
Cod SYG | E04013097 ![]() |
Cod OS | SW825448 ![]() |
Cod post | TR1, TR2, TR3, TR4 ![]() |
![]() | |
Cau
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/a/a5/Truro_Cathedral_1.jpg/320px-Truro_Cathedral_1.jpg)
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 18,766.[3]
Mae'r ddinas yn enwog am ei heglwys gadeiriol, y dechreuwyd ei hadeiladu ym 1879, ac a gwblhawyd ym 1910. Hefyd, mae hi'n lleoliad i Amgueddfa Frenhinol Cernyw (Royal Cornwall Museum), Llysoedd Cyfiawnder Cernyw a neuadd sir newydd Cyngor Sir Cernyw. Yn y ddinas mae canolfan galwadau band eang Grŵp BT.