![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/a/a1/Mucky_fat_%2528dripping%2529.jpg/640px-Mucky_fat_%2528dripping%2529.jpg&w=640&q=50)
Toddion
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae "toddion cig moch" yn ailgyfeirio i'r erthygl hon. Efallai eich bod yn chwilio am bloneg.
Braster a geid allan o gig wrth ei rostio neu ei ffrio yw toddion[1], dripin[2] neu dripyn.[3] Gan amlaf daw o gig eidion, ond weithiau ceir toddion cig moch. Fe'i gasglir a'i loywi, hynny yw ei ddiwaddodi, gan ffurfio braster solet a werthir mewn blociau. Arferid taenu toddion ar fara a'i alw'n frechdan doddion.[4] Yn y gegin fodern defnyddir i rostio tatws neu ei rwbio ar olwyth o gig i'w gadw'n wlyb wrth iddo goginio.[5]
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/a/a1/Mucky_fat_%28dripping%29.jpg/640px-Mucky_fat_%28dripping%29.jpg)