Titw'r Wern

rhywogaeth o adar From Wikipedia, the free encyclopedia

Titw'r Wern

Mae Titw'r Wern (Poecile palustris) yn aelod o deulu'r Paridae, y titwod. Mae'n aderyn cyffredin trwy'r rhan fwyaf o Ewrop a gogledd Asia.

Ffeithiau sydyn Dosbarthiad gwyddonol, Enw deuenwol ...
Titw'r Wern
Thumb
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Paridae
Genws: Poecile
Rhywogaeth: P. palustris
Enw deuenwol
Poecile palustris
(Linnaeus, 1758)
Cyfystyron

Parus palustris

Cau
Thumb
Poecile palustris

Mae'n perthyn yn agos i Ditw'r Helyg ac yn bur debyg iddo o ran ymddangosiad ac arferion, ond mae'n defnyddio tyllau sydd eisoes yn bodoli mewn coed i nythu, tra mae Titw'r Helyg yn aml yn gwneud ei dwll ei hun mewn pren wedi pydru.

Ceir sawl is-rywogaeth:

  • P. p. dresseri - Cymru, canolbarth a de Lloegr a gorllewin Ffrainc
  • P. p. palustris - gogledd a chanolbarth Ewrop, o wledydd Llychlyn hyd Benrhyn Iberia a Gwlad Groeg.
  • P. p. italicus - yr Alpau Ffrengig, Yr Eidal
  • P. p. stagnatilis - dwyrain Ewrop hyd fynyddoedd Ural a gogledd-orllewin Twrci
  • P. p. kabardensis - Cawcasws a gogledd-ddwyrain Twrci
  • P. p. brevirostris, de a de-ddwyrain Siberia, gogledd Mongolia, gogledd-ddwyrain Tsieina a gogledd Corea
  • P. p. jeholicus - gogledd-ddwyrain Tsieina
  • P. p. hellmayri, dwyrain Tsieina a de Corea.
  • P. p. hypermelaenus - canolbarth a de Tsieina a gorllewin Myanmar.
  • P. p. ernsti, Ynys Sachalin
  • P. p. hensoni, de Ynysoedd Kuril a Hokkaido, Japan

Ar un adeg roedd Titw'r Wern yn aderyn pur gyffredin yng Nghymru, ond mae ei niferoedd wedi gostwng yn fawr yn ystod y 30 mlynedd diwethaf, ac mae wedi diflannu'n llwyr o rai ardaloedd. Nid oes sicrwydd beth yw'r rheswm am hyn.

Wikiwand in your browser!

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.

Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.