Theo Bos
From Wikipedia, the free encyclopedia
Seiclwr trac o'r Iseldiroedd ydy Theo Bos (ganwyd 22 Awst 1983 yn Hierden, Yr Iseldiroedd), mae'n enillydd medal arian yn y Gemau Olympaidd ac yn bencampwr y byd pum gwaith.
Gwybodaeth bersonol | |
---|---|
Enw llawn | Theo Bos (2018) |
Dyddiad geni | 22 Awst 1983 |
Manylion timau | |
Disgyblaeth | Trac |
Rôl | Reidiwr |
Math seiclwr | Sbrint |
Prif gampau | |
Pencampwr y Byd, pum gwaith | |
Golygwyd ddiwethaf ar 20 Medi, 2007 |
Enillodd y fedal arian yn sbrint Gemau Olympaidd 2004.
Enillodd y fedal aur yn y sbrint a'r treial amser 1 km (neu kilo) ym Mhencampwriaethau Trac y Byd, UCI 2004. Y flwyddyn canlynol, enillodd y fedal aur yn y pursuit unigol, a medal arian ym Mhencampwriaethau Trac y Byd, UCI 2005.
Ym Mhencampwriaethau Trac y Byd, UCI 2006, enillodd y fedal aur yn y ras keirin, gan gyflawni "Coron Drifflig" o fuddugoliaethau (gan iddo fod yn Bencampwr y Byd yn sbrint, kilo a keirin). Enillodd y ras y argyhoeddiadol ar ôl cyflynmu â dau lap i fynd, a chwythu'r cystadlwyr eraill i ffwrdd, gan ennill â bwlch llydan rhynddo ef a'i gystadleuwyr a chael digon o amser i godi ei ddwylo i chwifio at y dorf wrth groesi'r linell. Disgrifiodd ei cyd-gystadlwr Ffrangeg, ac enillydd y fedal efydd, Arnaud Tournant, berfformiad Bos fel "yr un gorau iddo weld ers amser maith" (Saesneg: "the best I’ve seen in a very long time.") Ail-enillodd ei deitl sbrint hefyd.
Ar 16 Rhagfyr, 2006, torodd Bos record seiclo trac y byd 200 metr, yn ystod cymalau ymgymhwyso sbrint Cypan y Byd yn Moscow. Clociodd Bos amser o 9.772 eiliad (ar ôl i nam cyfrifiadurol roi amser annhebygol o 9.086 eiliad iddo), a curodd y record a ddelwyd gan Ganadiwr, Curt Harnett am 11 mlynedd gynt. Yn dilyn hyd, datganodd Bos mai'r 200 m Following his record setting run Bos declared the 200 m oedd y "record eithafaf" ar gyfer seiclwyr trac. Archived 2007-09-07 at the Wayback Machine Pum diwrnod yn ddiweddarach, anrhydeddwyd Bos â gwobr Chwaraewr y Flwyddyn, yr Iseldireoedd.
Mae ei frawd Jan Bos, hefyd yn seiclwr trac ond yn bennaf mae'n sglefriwr cyflymder.