The Lord of the Rings: The Return of the King (ffilm)
ffilm ddrama a elwir hefyd yn ffilm ffantasi gan Peter Jackson a gyhoeddwyd yn 2003 / From Wikipedia, the free encyclopedia
Y drydedd ffilm ffantasi o 2003 yng nghyfres The Lord of the Rings gan J. R. R. Tolkien, sy'n serennu Elijah Wood ac Ian McKellen, yw The Lord of the Rings: The Return of the King.
Poster y ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Peter Jackson |
Cynhyrchydd | Peter Jackson Fran Walsh Barrie M. Osborne Tim Sanders |
Ysgrifennwr | J. R. R. Tolkien |
Addaswr | Fran Walsh Phillippa Boyens Peter Jackson |
Serennu | Elijah Wood Ian McKellen Viggo Mortensen Sean Astin Dominic Monaghan Billy Boyd Orlando Bloom John Rhys-Davies Andy Serkis Liv Tyler Hugo Weaving David Wenham Miranda Otto Bernard Hill Karl Urban John Noble Brad Dourif Christopher Lee Ian Holm Cate Blanchett |
Cerddoriaeth | Howard Shore |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | New Line Cinema |
Dyddiad rhyddhau | 17 Rhagfyr 2003 |
Amser rhedeg | 200 munud |
Gwlad | Seland Newydd Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg Sindarin |
Rhagflaenydd | The Lord of the Rings: The Two Towers |
(Saesneg) Proffil IMDb |
Wrth i Sauron lawnsio ei ymdrechion olaf i gipio'r Ddaear-ganol, mae Gandalf y Dewin a Théoden Brenin Rohan yn galw eu lluoedd ynghyd er mwyn ceisio amddiffyn prifddinas Gondor, Minas Tirith o'r bygythiad sydd ar y gorwel. Yn y pen draw, cymer Aragon orsedd Gondor a galwa ar fyddin o ysbrydion i'w gynothwyo i drechu Sauron. Sylweddolant yn y diwedd na allant ennill, hyd yn oed gyda holl rym eu byddin; dibynnant felly ar yr Hobbits, Frodo a Sam, sy'n cael eu hwynebu gan faich y Fodrwy a brad Gollum. Cyrhaeddant Mordor, gyda'r nod o ddinistrio'r Fodrwy One ym Mynydd Doom
Rhyddhawyd y ffilm ar y 17eg o Ragfyr, 2003, a daeth The Lord of the Rings: The Return of the King yn un o lwyddiannau mwyaf y swyddfa docynnau erioed. Enillodd unarddeg o Wobrau'r Academi, sef yr un nifer o wobrau a Titanic a Ben Hur. Enillodd Wobr yr Academi am y Ffilm Orau, yr unig dro erioed i ffilm ffantasi wneud hynny. Dyma'r ffilm a wnaeth yr ail fwyaf o arian erioed, tu ôl Titanic, gan wneud $1.12 biliwn yn fyd-eang.