From Wikipedia, the free encyclopedia
Cylchgrawn misol Saesneg oedd The Gentleman's Magazine a gyhoeddwyd yn Llundain o 1731 i 1922. Ar ei anterth, yn ei gan mlynedd gyntaf, daeth i'r amlwg fel un o gyfnodolion llenyddol a gwleidyddol mwyaf dylanwadol.
Enghraifft o'r canlynol | cylchgrawn, monthly magazine, men's magazine |
---|---|
Daeth i ben | 1922 |
Cyhoeddwr | Edward Cave |
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | Ionawr 1731 |
Dechrau/Sefydlu | 1731 |
Lleoliad cyhoeddi | Llundain |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
Sylfaenydd | Edward Cave |
Pencadlys | Llundain |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Sefydlwyd y cylchgrawn gan Edward Cave dan y ffugenw Sylvanus Urban. Hwn oedd y defnydd cyntaf o'r gair magazine i ddisgrifio cyfnodolyn yn yr iaith Saesneg. Ei nod ar y cychwyn oedd i gasglu yn fisol y pigion o newyddion, ysgrifau, anecdotau, ac hysbysiadau a gyhoeddwyd yn yr amryw bapurau newydd a chyfnodolion dyddiol ac wythnosol. Erbyn 1739, cyfraniadau gwreiddiol oedd yn cyfri am y rhan fwyaf o'r cynnwys, yn hytrach na chrynoadau o'r newyddion ac ailargraffiadau. Cyhoeddwyd beirniadaeth lenyddol, ysgrifau, cofnod o gyhoeddiadau, ac adroddiadau o'r Senedd. Un o'r cyfranwyr rheolaidd oedd Samuel Johnson, cyfaill i Cave, a gafodd ddylanwad mawr ar y cylchgrawn.[1] Dyfeisiodd Johnson a Cave ffordd o osgoi'r gwaharddiad swyddogol ar ohebiaeth seneddol yn y wasg drwy esgus bod adroddiadau Johnson yn disgrifio'r trafodaethau gwleidyddol yn "Lilliput", gan arloesi traddodiad y sgetsh wleidyddol.
Sbardunwyd nifer o ddynwared-weithiau gan lwyddiant The Gentleman's Magazine, yn eu plith y London Magazine a'r Scots Magazine. John Nichols oedd y golygydd o 1792 i 1826, a chyhoeddwyd ysgrifau gan Charles Lamb ac enwogion eraill dan ei olygyddiaeth. Fodd bynnag, ymddangosodd y cylchgrawn yn hen ffasiwn i nifer o'r to iau o lenorion, ac mae sylwadau William Hazlitt ym 1823 yn nodi ffarwél i oes aur y cyfnodolyn.[1] Parhaodd fel cylchgrawn cyffredinol am ryw gan mlynedd arall.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.