rhywogaeth o adar From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Telor yr Helyg (Phylloscopus trochilus) yn aelod o deulu teloriaid y dail, Phylloscopidae, ac yn aderyn cyffredin trwy ogledd a chanolbarth Ewrop ac Asia.
Telor yr Helyg | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Passeriformes |
Teulu: | Phylloscopidae |
Genws: | Phylloscopus |
Rhywogaeth: | P. trochilus |
Enw deuenwol | |
Phylloscopus trochilus (Linnaeus, 1758) | |
Mae'n treulio'r gaeaf yn Affrica i'r de o anialwch y Sahara ac mae'n un o'r adar mudol cyntaf i ddechwelyd yn y gwanwyn, ond fel rheol wythnos neu ddwy yn nwyrach na pherthynas agos iddo, sef y Siff-saff.
Adeiledir y nyth mewn coedydd agored gyda thyfiant is ar gyfer nythu ynddo neu dyfiant isel gyda choed yma ac acw. Fel rheol mae'n nythu mewn llwyn. Pryfed yw ei brif fwyd, ac mae'n eu dal ym mrigau'r coed.
Gall fod yn anodd gwahaniaethu rhwng Telor yr Helyg a rhai aelodau eraill o'r genws Phylloscopus, er enghraifft y Siff-saff. Mae rhwng 11–12 cm o hyd, yn wyrdd-frown ar y cefn a bron yn wyn oddi tano. Mae'r coesau yn olau, lliw pinc fel rheol, yn wahanol i'r Siff-saff sydd a choesau tywyll. Mae adenydd y Siff-saff yn fyrrach na rhai Telor yr Helyg hefyd. Y gân yw'r ffordd hawddaf i'w gwahaniaethu; mae cân Telor yr Helyg yn fath o chwiban sy'n gostwng tua'r diwedd, tra mae cân y Siff-saff fel ei enw - "siff-saff" yn cael ei ail-adrodd dro ar ôl tro.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.