![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/5/5e/Hagupit_Dec_04_2014_0100Z.png/640px-Hagupit_Dec_04_2014_0100Z.png&w=640&q=50)
Teiffŵn
From Wikipedia, the free encyclopedia
Corwynt trofannol yng ngorllewin y Môr Tawel ac yn nwyrain Asia yw Teiffŵn (o'r Siapanaeg 台風 taifu neu'r Tsieineeg 台风 tai fung: gwynt mawr). Fel arfer, adeg yr haf neu'r hydref cynnar y cwyd teiffwnau. Yn ôl diffiniad Japanaidd mae cyflymder y gwynt mewn teiffŵn o leiaf yn 34 not (17.2 m/s), ond does dim diffiniad rhyngwladol o teiffŵn yn bod.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/c/c4/Typhoon_maemi_2003.jpg/640px-Typhoon_maemi_2003.jpg)
Mae teiffwnau yn codi mewn ardaloedd sydd i'r gogledd o'r cyhydedd a ger Tsieina neu Indonesia ac yna'n symud i'r gogledd-orllewin, tua Fietnam, y Philipinau neu tir mawr Tsieina, ond mae'r teiffwnau nad ydynt yn cyrraedd y tir mawr yn symud tua'r gogledd-ddwyrain tuag at Corea neu Siapan.
Mae teiffŵn yn achosi llifogydd a gwyntoedd cryfion a felly yn achosi llawer o niwed i'r gwledydd sydd yn ei lwybr, ac weithiau yn lladd cannoedd o bobl.