![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/ff/Finding_of_Taliesin.jpg/640px-Finding_of_Taliesin.jpg&w=640&q=50)
Taliesin
bardd / From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Taliesin yn un o'r beirdd cynharaf yn yr iaith Gymraeg, a'r bardd Cymraeg cynharaf y ceir ei destunau ar glawr heddiw. Roedd Taliesin yn fardd llys i ddau o frenhinoedd y Brythoniaid: Cynan Garwyn o Bowys ac Urien Rheged, brenin Rheged yn yr Hen Ogledd. Bu fyw yn ail hanner y 6g ac roedd yn perthyn i'r genhedlaeth ar ôl Aneirin. Fe'i crybwyllir yn y llyfr Historia Brittonum gan Nennius ynghyd ag Aneirin, Cian, Blwchfardd a Thalhaearn Tad Awen, fel bardd a ganai yn yr Hen Ogledd. Mae cerddi'r Taliesin hanesyddol wedi goroesi yn Llyfr Taliesin, llawysgrif o ddechrau'r 13g. Maent yn perthyn i'r Hengerdd. Yn Llyfr Taliesin a llawysgrifau eraill ceir nifer o gerddi eraill yn ogystal, ar destunau amrywiol, sydd yn ddiweddarach ond a dadogir arno. Yr enw traddodiadol ar y bardd chwedlonol, cyfansoddwr tybiedig y cerddi chwedlonol amdano a'r daroganau yn ei enw, yw Taliesin Ben Beirdd, ond nid oedd Cymry'r Oesoedd Canol yn gwahaniaethu rhwng y bardd hanesyddol ac arwr y chwedlau.
Taliesin | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 534, 518 ![]() Powys ![]() |
Bu farw | 599 ![]() |
Dinasyddiaeth | sub-Roman Britain ![]() |
Galwedigaeth | bardd, ysgrifennwr, bardd, dewin ![]() |
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/d9/Book.of.Taliesin.facsimile.png/320px-Book.of.Taliesin.facsimile.png)
- Mae hon yn erthygl am y bardd hanesyddol. Am enghreifftiau eraill o'r enw gweler Taliesin (gwahaniaethu).