![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/1/13/TG4%252C_Baile_na_hAbhann%252C_Conamara%252C_Co._na_Gaillimhe_%25282014%2529.jpg/640px-TG4%252C_Baile_na_hAbhann%252C_Conamara%252C_Co._na_Gaillimhe_%25282014%2529.jpg&w=640&q=50)
TG4
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae TG4 (TG Ceathair, Teledu Gwyddelig Pedwar) yn wasanaeth deledu cyhoeddus yn yr iaith Wyddelig.
![]() | |
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | rhwydwaith teledu ![]() |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 31 Hydref 1996 ![]() |
Perchennog | Teilifís na Gaeilge ![]() |
Aelod o'r canlynol | Undeb Darlledu Ewropeaidd ![]() |
Pencadlys | Dulyn ![]() |
Gwefan | https://www.tg4.ie/ ![]() |
Sefydlwyd ym 1996 mae'n cyrraedd 98% o gartrefi Iwerddon yn cynnwys dros wasanaeth lloeren Sky Iwerddon. Mae'r rhaglenni hefyd ar gael ar lein trwy ei wefan.
Enw gwreiddiol y sianel oedd Teilifís na Gaeilge (Teledu y Wyddelig) neu TnaG cyn ei ail-enwi'n TG4 ym 1999. Mae'r rhaglenni dyddiol yn Wyddelig ar oriau brig gyda rhaglenni eraill yn Saesneg.
Mae llawer o raglenni iaith Wyddelig wedi'u recordio gydag is-deitlau Saesneg, ond mae'r rhaglenni byw yn dueddol o fod heb is-deitlau
Er yn wasanaeth a sefydliwyd gan lywodaeth Gweriniaeth Iwerddon mae TG4 bellach ar gael yn 6 sir Gogledd Iwerddon sydd o dan reolaeth Prydain yn dilyn Cytundeb Belffast (Good Friday Peace Agreement), 1998 rhwng Llywodraethau Prydain a Gweriniaeth Iwerddon.