![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/2/29/T%25C5%25B7_Newydd.jpg/640px-T%25C5%25B7_Newydd.jpg&w=640&q=50)
Tŷ Newydd (Canolfan)
Canolfan Ysgrifennu Creadigol Cymru / From Wikipedia, the free encyclopedia
Tŷ Newydd yn Llanystumdwy, Gwynedd, yw Canolfan Ysgrifennu Genedlaethol Cymru. Unodd Tŷ Newydd â'r Academi i greu'r cwmni cenedlaethol newydd Llenyddiaeth Cymru yn 2011.[1] Mae'n darparu cyrsiau ysgrifennu creadigol i awduron sy'n ysgrifennu yn Gymraeg a Saesneg.
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
![]() | |
Math | canolfan ysgrifennu, writing residency ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Llanystumdwy ![]() |
Sir | Gwynedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 38.2 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 52.9217°N 4.2641°W ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II* ![]() |
Manylion | |
Cau
Mae'r tŷ ei hun o ddiddordeb pensaernïol, yn adeilad rhestredig Gradd II* ac yn dyddio'n ôl i'r 16g. Cafodd ei adnewyddu yn y 1940au gan y pensaer Clough Williams-Ellis dan gyfarwyddyd y cyn Brif Weinidog David Lloyd George a'i ail wraig Frances Stevenson a symudodd i fyw i Dŷ Newydd yn 1944. Bu farw Lloyd George yn y llyfrgell yn Nhŷ Newydd ym 1945.