Tŷ'r Arglwyddi
From Wikipedia, the free encyclopedia
Tŷ uchaf Senedd y Deyrnas Unedig yw Tŷ'r Arglwyddi (Saesneg: House of Lords). Fel Tŷ'r Cyffredin, mae'n cyfarfod ym Mhalas San Steffan.[3]
Ffeithiau sydyn Gwybodaeth gyffredinol, Math ...
Tŷ'r Arglwyddi Teyrnas Gyfunol Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon | |
---|---|
55ed Llywodraeth y DU | |
Gwybodaeth gyffredinol | |
Math | Y Tŷ Uchaf Llywodraeth y Deyrnas Unedig |
Arweinyddiaeth | |
Llefarydd y Tŷ | Baroness D'Souza, Aelodau Di-blaid[1] ers 1 Medi 2011 |
Arweinydd | Barwnes Stowell o Beeston, Ceidwadwyr ers 15 Gorffennaf 2014 |
Arweinydd yr Wrthblaid | Barwness Royal o Blaisdon, Llafur ers 11 Mai 2010 |
Cyfansoddiad | |
Aelodau | 779 (+50 o arglwyddi'n absennol ar wyliau neu wedi eu hymatal rhag eistedd)[2] |
Grwpiau gwleidyddol | Llywodraeth EM
Gwrthblaid EM
Arall
|
Tâl | Dim, ond telir costau. |
Man cyfarfod | |
Siambr Tŷ'r Arglwyddi Palas San Steffan San Steffan Llundain Y Deyrnas Gyfunol | |
Gwefan | |
www.parliament.uk/lords |
Cau
Mae wedi bodoli mewn rhyw ffurf neu'i gilydd ers y 14g. Yn wahanol i Dŷ'r Cyffredin, cânt eu henwebu'n hytrach na chael eu hethol. [4] Nid oes nifer penodol o aelodau gan dŷ'r Arglwyddi ac ar hyn o bryd, mae yna 779 ohonynt: rhai'n "Arglwydd Ysbrydol" sef esgobion Eglwys Loegr, nifer am oes, Arglwyddi etifeddol a 2 "Swyddog Mawr y Wladwriaeth".[5]
O'r Arglwyddi Temporal, mae'r rhan fwyaf yn arglwyddi am oes, wedi'u penodi gan y Frenhines ar gyngor Prif Weinidog y Deyrnas Unedig neu Gomisiwn Penodi Tŷ'r Arglwyddi. Ceir hefyd rhai arglwyddi etifeddol.[6]