From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol yr Ariannin, neu'r Pwmaod, yn cynrychioli'r Ariannin mewn gemau rhyngwladol rygbi'r undeb. Trefnir y tîm, sy'n chwarae mewn glas golau a gwyn, gan Undeb Rygbi'r Ariannin (UAR, o'r Sbaeneg: Unión Argentina de Rugby).
Chwaraeodd y tîm eu gêm cyntaf yn 1910 yn erbyn tîm Ynysoedd Prydain. Ym mis Ebrill 2013 cafodd eu graddio yn wythfed yn y byd gan y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol (BRRh), sef y tîm cryfaf ar gyfandir America. Mae'r Ariannin wedi cystadlu ym mhob Cwpan y Byd ers y cwpan cyntaf yn 1987. Mae'r tîm hefyd wedi ennill pob gêm yn eu hanes yn erbyn timau o gyfandir America, heblaw am ddwy golled yn erbyn Canada.
Serch bod pêl-droed yn fwy poblogaidd na rygbi yn yr Ariannin, Mae canlyniadau ardderchog y Pumas ers Cwpan Rugbi'r Byd 1999 wedi amlhau poblogrwydd y gêm yn arwyddocaol. Mae'r Ariannin wedi cwblhau nifer o fuddugoliaethau annisgwyl, yn arbennig yn Buenos Aires, ac yn gallu trechu timau Chwe Gwlad yn reolaidd. Cafodd yr Ariannin eu graddio yn bedwerydd gan y BRRh ar ôl buddugoliaeth annisgwyl yn erbyn Ffrainc yng ngêm cyntaf Cwpan Rygbi'r Byd 2007. Enillodd yr Ariannin eu grŵp heb golli gêm, a chyrraeddodd y tîm y rownd gynderfynol am y tro cyntaf, yn ennill 19–13 yn erbyn yr Alban yn y rownd gogynderfynol. Collasant 37–13 i Dde Affrica yn y rownd gynderfynol, ond enillodd y tîm gêm y trydydd safle, yn erbyn Ffrainc eto.
Dechreuodd y Pumas Cwpan Rygbi'r Byd 2011 gan golli 13–9 i Loegr, ar ôl arwain y gêm am fwy na 60 munud. Enillodd y tîm yn erbyn Rwmania 43–8. Y gêm nesaf, yn erbyn yr Alban, penderfynodd pa dîm wnaeth cyrraedd y rownd gogynderfynol. Enillodd yr Ariannin y gêm 13–12 ar ôl cais hwyr gan Lucas González Amorosino, Felipe Contepomi wnaeth trosi. Daeth yr Ariannin yn ail yn y grŵp drwy ennill 25–9 yn erbyn Georgia. Chwaraeodd yr Ariannin y Crysau Duon yn y rownd gogynderfynol; sgoriodd Julio Farias Cabello gais ar ôl hanner awr i arwain 7–6, ond goruchafodd y Crysau Duon y gêm, yn arwain i fuddugoliaeth 33–10 i Seland Newydd.
Ers 2012 mae'r Ariannin yn chwarae yn y Pencampwriaeth Rygbi, cystadleuaeth gydag Awstralia, De Affrica a Seland Newydd. Yn 2012 fe wnaeth y Pumas gystadlu yn y Pencampwriaeth heb ennill gêm, ond gorffennodd eu gêm yn erbyn De Affrica ym Mendoza yn gyfartal.
Chwaraewr | Safle | Dyddiad Geni | Clwb |
Agustín Creevy | Bachwr | 15 Mawrth 1985 (28 oed) | Montpellier |
Eusebio Guiñazú | Bachwr | 15 Ionawr 1982 (31 oed) | Caerfaddon |
Bruno Postiglioni | Bachwr | 8 Ebrill 1987 (26 oed) | La Plata |
Marcos Ayerza | Prop | 12 Ionawr 1983 (30 oed) | Caerlŷr |
Maximiliano Bustos | Prop | 2 Ebrill 1986 (27 oed) | Montpellier |
Francisco Gómez Kodela | Prop | 3 Gorffennaf 1985 (27 oed) | Biarritz |
Nahuel Lobo | Prop | 27 Awst 1991 (21 oed) | Montpellier |
Manuel Carizza | Clo | 23 Awst 1984 (28 oed) | Racing Métro |
Julio Farías Cabello | Clo | 9 Medi 1978 (34 oed | Cymry Llundain |
Juan Cruz Guillemain | Clo | 21 Awst 1992 (20 oed) | Stade Français |
Tomas Vallejos | Clo | 16 Hydref 1984 (28 oed) | Scarlets |
Tomás de la Vega | Blaenasgellwr | 28 Medi 1990 (22 oed) | Ciwba |
Juan Manuel Leguizamón | Blaenasgellwr | 6 Mehefin 1983 (29 oed) | Lyon |
Tomás Leonardi | Blaenasgellwr | 1 Gorffennaf 1987 (25 oed) | Southern Kings |
Juan Martín Fernández Lobbe (c) | Wythwr | 19 Tachwedd 1981 (31 oed) | Toulon |
Leonardo Senatore | Wythwr | 13 Mai 1984 (28 oed) | Caerwrangon |
Tomás Cubelli | Mewnwr | 12 Mehefin 1989 (23 oed) | Belgrano |
Martín Landajo | Mewnwr | 14 Mehefin 1988 (24 oed) | C.A.S.I. |
Nicolás Vergallo | Mewnwr | 20 Ebrill 1983 (29 oed) | Southern Kings |
Juan Martín Hernández | Maswr | 7 Awst 1982 (30 oed) | Racing Métro |
Nicolás Sánchez | Maswr | 26 Hydref 1988 (24 oed) | Bordeaux |
Marcelo Bosch | Canolwr | 7 Ionawr 1984 (29 oed) | Biarritz |
Santiago Fernández | Canolwr | 28 Tachwedd 1985 (27 oed) | Montpellier |
Gonzalo Tiesi | Canolwr | 24 Ebrill 1985 (27 oed) | Cymry Llundain |
Gonzalo Camacho | Asgellwr | 28 Awst 1984 (28 oed) | Caerwysg |
Juan Imhoff | Asgellwr | 11 Mai 1988 (24 oed) | Racing Métro |
Manuel Montero | Asgellwr | 20 Tachwedd 1991 (21 oed) | Pucará |
Santiago Cordero | Cefnwr | 6 Rhagfyr 1993 (19 oed) | Regatas Bella Vista |
Joaquín Tuculet | Cefnwr | 1 Awst 1989 (23 oed) | Grenoble |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.