Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Canada
tîm rygbi'r undeb dynion / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Canada (Ffrangeg: Équipe du Canada de rugby à XV) yn cynrychioli Canada ar y lefel ryngwladol ym myd chwaraeon rygbi'r undeb. Fe'i dosbarthir gan World Rugby (y corff a adnebir fel Fwrdd Rygbi Rhyngwladol y Byd, yr IRB) yn yr ail ddosbarth cryfder (ail lefel). Chwaraewyd y gêm ryngwladol gyntaf ym 1932 yn erbyn Siapan. Mae'r tîm cymwyso ar gyfer pob Cwpan Rygbi'r Byd a chyrraedd ym 1991 gyda'r mynediad i'r rowndiau terfynol yn ganlyniad gorau. Bu'r tîm hefyd yn cymryd rhan yn y "Churchill Cup" a chwaraewyr, gan mwyaf gan timau Canada, UDA a Lloegr a thimau gwahodd eraill rhwng 2003 - 2011. Enw swyddogol undeb rygbi Canada yw "Rugby Canada" (gan osgoi yr angen am enw dwyieithog).
| |||
Cwpan y Byd | |||
---|---|---|---|
Ymddangosiadau | 8 |
Mae'r tîm hefyd yn cymryd rhan yng nghystdleuaeth flynyddol Pencampwriaeth Rygbi yr Americas ("Americas Rugby Championship") sy'n cynnwys timau'r UDA, Wrwgwái, Brasil, Yr Ariannin a Tsile. Sefydlwyd y gystadleuaeth yn 2009 ac fe'i cymherir i Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar gyfer gyfandiroedd America.[1]