From Wikipedia, the free encyclopedia
Dinas yn ne canolbarth Mali, gorllewin Affrica, sy'n gorwedd 235 km (146 milltir) i'r gogledd-ddwyrain o Bamako ar afon Niger, tua hanner ffordd rhwng y ddinas honno a Mopti yw Ségou (hefyd Seku, Segu weithiau). Mae'n ganolfan weinyddol y rhanbarth o'r un enw. Sefydlwyd Ségou gan y bobl Bozo yn 1620, ar safle sy'n gorwedd tua 10 km (6.2 milltir) y tu allan i'r ddinas bresennol. Gyda phoblogaeth o tua 100,000, Ségou yw dinas drydedd fwyaf Mali.
Yn y gorffennol roedd Ségou yn brifddinas Ymerodraeth Bambara ac felly mae ganddi ran bwysig yn hanes Mali. Cyfeirir ati weithiau fel dinas y “Balanzan”, ar ôl y goeden acesia leol, acacia albida. Trwy gydol ei hanes mae Ségou wedi mwynhau perthynas masnachol agos â dinasoedd Djenné a Tombouctou (Timbuktu), ac mae'n aros yn ganolfan masnachu grawnfwyd a gwartheg er bod gwaith crochenwaith a physgota yn bwysig hefyd.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.