![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/f8/Yvan_Goll%252C_Surr%25C3%25A9alisme%252C_Manifeste_du_surr%25C3%25A9alisme%252C_Volume_1%252C_Number_1%252C_October_1%252C_1924%252C_cover_by_Robert_Delaunay.jpg/640px-Yvan_Goll%252C_Surr%25C3%25A9alisme%252C_Manifeste_du_surr%25C3%25A9alisme%252C_Volume_1%252C_Number_1%252C_October_1%252C_1924%252C_cover_by_Robert_Delaunay.jpg&w=640&q=50)
Swrealaeth
From Wikipedia, the free encyclopedia
Cysyniad neu athroniaeth yw Swrealaeth, sy'n honni y gellir rhyddhau'r meddwl, ac yna rhyddhau'r unigolyn a'r gymdeithas, trwy defnyddio cynneddfau dychmygol yr isymwybod, a chyrraedd cyflwr breuddwydiol sy'n wahanol i (neu hyd yn oed yn mwy gwir na) realiti pob dydd. Creda Swrealwyr y gall y realiti hwn greu chwyldro personol, diwylliannol, a chymdeithasol, a bywyd o ryddid, barddoniaeth a rhywioldeb di-derfyn. Dywedodd André Breton y byddai gwir datguddiedig o'r fath yn wynfydedig.
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Dechrau/Sefydlu ...
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | symudiad celf, mudiad diwylliannol, arddull mewn celf ![]() |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1920s ![]() |
Daeth i ben | 1980s ![]() |
![]() |
Cau
Roedd mudiad swrealaeth yn ddylanwadol iawn ym mywyd diwylliannol Ffrainc, Sbaen a'r Eidal yn ail chwarter yr 20g.