Svetlana Yevgenyevna Savitskaya
From Wikipedia, the free encyclopedia
Awdures a gofodwr Sofietaidd yw Svetlana Yevgenyevna Savitskaya (Rwseg: Светла́на Евге́ньевна Сави́цкая; ganed 8 Awst 1948), sydd bellach wedi ymddeol. Hedfanodd ar fwrdd y Soyuz T-7 ym 1982, a hi oedd yr ail fenyw yn y gofod. Ar ei thaith i'r gofod yn 1984, hi oedd y fenyw gyntaf i hedfan am yr eildro, a'r fenyw gyntaf i derdded y tu allan i' llong ofod. Fel peilot, torrodd sawl record y Fédération Aéronautique Internationale (FAI). Mae Savitskaya yn briod, gydag un plentyn, mab a anwyd ym 1986.
Ffeithiau sydyn Llais, Ganwyd ...
Svetlana Yevgenyevna Savitskaya | |
---|---|
Llais | Svetlana Savitskaya voice.oga |
Ganwyd | 8 Awst 1949 Moscfa |
Dinasyddiaeth | Rwsia |
Addysg | Ymgeisydd Gwyddorau Technegol |
Alma mater | |
Galwedigaeth | hedfanwr, gofodwr, gwleidydd, person milwrol, ysgrifennwr, fforiwr, peilot prawf, academydd, Aelod o 'Duma' Gwladwriaeth Rwsia |
Swydd | Aelod o 'Duma' Gwladwriaeth Rwsia |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | Parti Gomiwnyddol Ffederasiwn Rwsia, Plaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd |
Tad | Yevgeny Savitsky |
Gwobr/au | Urdd Lenin, Arwr yr Undeb Sofietaidd, Urdd Teilyngdod "Am waith dros yr Henwlad", Dosbarth IV, Urdd y Bathodyn Anrhydedd, Pilot-Cosmonaut" Yr Undeb Sofietaidd, Medal "For Merit in Space Exploration, Urdd Lenin, Arwr yr Undeb Sofietaidd, Meistr Anrhydeddus Chwaraeon, CCCP, Master of skydiving USSR, Urdd Teilyngdod "Am waith dros yr Henwlad", Dosbarth III, Cymhwyster dosbarth milwrol y peilot, International Space Hall of Fame |
llofnod | |
Cau
Bu'n aelod o Blaid Gomiwnyddol Ffederasiwn Rwsia a Phlaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd. Bu hefyd yn aelod o'r Academi Awyr a Gofod am rai blynyddoedd.