![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/de/Max_F%25C3%25BCrst_Dreieinigkeit_mit_Krone.jpg/640px-Max_F%25C3%25BCrst_Dreieinigkeit_mit_Krone.jpg&w=640&q=50)
Sul y Drindod
From Wikipedia, the free encyclopedia
Sul y Drindod yw'r dydd Sul cyntaf ar ôl y Sulgwyn yng nghalendr litwrgaidd Cristnogol y Gorllewin, ond yn Yr Eglwys Uniongred Ddwyreiniol fe'i dathlir ar y Sulgwyn ei hun. Mae Sul y Drindod yn dathlu athrawiaeth Gristnogol y Drindod, sef tri Pherson y Duwdod: y Tad, y Mab, a'r Ysbryd Glân.
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Rhagflaenwyd gan ...
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | dydd gŵyl Cristnogol, gŵyl symudol ![]() |
---|---|
Rhagflaenwyd gan | Sulgwyn ![]() |
Enw brodorol | Dominica Trinitatis ![]() |
![]() |
Cau
Mae Sul y Drindod yn cael ei ddathlu yn holl eglwysi litwrgaidd y Gorllewin, gan gynnwys yr Eglwys Gatholig Rufeinig, yr Eglwys Anglicanaidd, yr Eglwys Fethodistaidd a'r Eglwys Bresbyteraidd.