Môr-wennol
From Wikipedia, the free encyclopedia
Adar môr o deulu'r Sternidae yw Môr-wenoliaid. Mae'r teulu'n cynnwys tua 44 o rywogaethau a geir ledled y byd.[1] Fel rheol, mae ganddynt gynffon fforchog, fel gwennol, pig fain ac adenydd hir a chul. Mae gan y mwyafrif o rywogaethau blu gwyn neu lwyd a marciau du ar y pen. Maent yn bwydo ar bysgod ac anifeiliaid dŵr eraill ac maent yn dodwy 1–3 ŵy.[1]
Ffeithiau sydyn Dosbarthiad gwyddonol, Genera ...
Môr-wenoliaid | |
---|---|
Môr-wennol Bigfelen (Thalasseus bergii) | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | Aves |
Urdd: | Charadriiformes |
Is-urdd: | Lari |
Teulu: | Sternidae Bonaparte, 1838 |
Genera | |
Gweler y rhestr |
Cau