Dinas yn yr Alban yw Stirling[1] (Gaeleg yr Alban: Sruighlea;[2] Sgoteg: Stirlin),[3] sy'n brifddinas ardal cyngor Stirling. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 41,243; y ddinas leiaf yn yr Alban.
Saif y ddinas o amgylch Castell Stirling, ar fryn sydd wedi bod o bwysigrwydd strategol ers o leiaf cyfnod y Rhufeiniaid. Credir mai Stirling oedd caer Iuddeu neu Urbs Giudi, lle gwarchaewyd ar Oswiu, brenin Northumbria gan Penda, brenin Mersia yn 655.
Stirling oedd y man isaf lle gellid croesi Afon Forth, ac mae ar y ffin rhwng Iseldiroedd ac Ucheldiroedd yr Alban. Ymladdwyd nifer o frwydrau yma, yn cynnwys buddugoliaeth William Wallace dros y Saeson ym Mrwydr Pont Stirling a buddugoliaeth Robert Bruce dros fyddin Edward II, brenin Lloegr ym Mrwydr Bannockburn.
Adeiladau a chofadeiladau
- Canolfan Thistles
- Castell Stirling
- Cofadeilad Cunninghame Graham
- Eglwys Gadeiriol Dunblane
- Gorsaf Stirling
- Y Raploch
Enwogion
- Billy Bremner (1942-1997), chwaraewr pêl-droed
- Willie Carson (g. 1942), joci
Cyfeiriadau
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.