![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/e/e2/Hobos.jpg/640px-Hobos.jpg&w=640&q=50)
Sleifio ar drên
From Wikipedia, the free encyclopedia
Yr arfer o deithio fel lleidr ar gar nwyddau rheilffordd yw sleifio ar drên[1] neu deithio ar y wagen[2] (Saesneg Americanaidd: freighthopping). Yn yr Unol Daleithiau, wrth i'r rheilffyrdd cael eu hadeiladu tuag at y gorllewin ar ôl Rhyfel Cartref America, roedd hyn yn fodd cyffredin o deithio yn enwedig gan weithwyr ymfudol a gafodd eu galw'n hobos. Roedd yn boblogaidd iawn yn ystod y Dirwasgiad Mawr wrth i bobl deithio i chwilio am waith. Heddiw, mae sleifio ar drenau yn erbyn y gyfraith ym mhob un o daleithiau'r Unol Daleithiau ac fe'i ystyrir yn ffurf o dresmasu. Mae nifer o reilffyrdd yn cyflogi heddlu rheilffordd i atal yr arfer.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/e/e2/Hobos.jpg/640px-Hobos.jpg)
Mae sleifio ar drên yn weithgaredd peryglus. Collodd y llenor W. H. Davies ei goes wedi i'w droed dde gael ei fathru gan olwyn trên tra'n ceisio neidio ar drên yn Renfrew, Ontario.