swydd seremonïol Lloegr From Wikipedia, the free encyclopedia
Sir seremonïol a sir hanesyddol yng Ngogledd-orllewin Lloegr yw Swydd Gaer, Sir Gaer, Swydd Gaerlleon neu Sir Gaerlleon[1] (Saesneg: Cheshire), ar y ffin â gogledd-ddwyrain Cymru. Ei chanolfan weinyddol yw dinas Caer ond y ddinas fwyaf ydy Warrington ac mae ei threfi'n cynnwys: Widnes, Congleton, Crewe, Ellesmere Port, Runcorn, Macclesfield, Winsford, Northwich, a Wilmslow.[2]
Math | siroedd seremonïol Lloegr |
---|---|
Ardal weinyddol | Gogledd-orllewin Lloegr, Lloegr |
Prifddinas | Caer |
Poblogaeth | 1,069,646 |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 2,342.7699 km² |
Yn ffinio gyda | Manceinion Fwyaf, Swydd Amwythig, Swydd Derby, Swydd Stafford, Clwyd, Glannau Merswy |
Cyfesurynnau | 53.1667°N 2.5833°W |
GB-CHS | |
Mae ei harwynebedd yn 2,343 km² a'i boblogaeth yn 1,066,647 yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[3]
Gan mai sir seremonïol ydyw ers Ebrill 2009, ni chynhelir etholiadau; mae'r gwaith o weinyddu'r sir ar lefel lleol yn cael ei wneud gan bedwar awdurdod unedol llai: Dwyrain Swydd Gaer, Gorllewin Swydd Gaer a Chaer, Bwrdeistref Halton a Bwrdeistref Warrington.[4][5]
Rhennir y sir yn bedwar awdurdod unedol:
Rhennir y sir yn 11 etholaeth seneddol yn San Steffan:
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.