![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/fe/Cocoa_Powder_and_Chocolate_on_Marble_Background.jpg/640px-Cocoa_Powder_and_Chocolate_on_Marble_Background.jpg&w=640&q=50)
Siocled
bwyd a wneir o ffa cacao / From Wikipedia, the free encyclopedia
Bwyd a wneir goco a siwgr yw siocled. Mae siocled yn frown fel arfer, ond mae rhai mathau o siocled yn felyn ("gwyn") neu'n ddu. Po uchaf yw canran y coco, y gorau yw ansawdd y siocled.
![]() | |
Math | stimulant foodstuff, cynhwysyn bwyd, Cyfwyd, functional food, melysion ![]() |
---|---|
Deunydd | chocolate liquor, siwgr, cocoa butter, cocoa bean, Cacao, cocoa, olew llysiau ![]() |
Gwlad | Mesoamerica ![]() |
Rhan o | cioccolato di Modica ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 1750 (yn y Calendr Iwliaidd) CC ![]() |
Yn cynnwys | siwgr, cocoa bean ![]() |
Cynnyrch | Cacao ![]() |
![]() |
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/3/34/Chocolate02.jpg/640px-Chocolate02.jpg)
Caiff siocled ei greu o gnau y goeden coco Theobroma cacao sydd yn hanu o goedwigoedd yr Amazon. Mae astudiaethau genetig yn awgrymu bod coed coco wedi cael eu tyfu gan bobl am bron i 3000 o flynyddoedd yn ne a chanolbarth America ac ymddengys y cawsant eu defnyddio i wneud diod. Mae'r enw 'siocled' yn tarddu o'r gair Nahuatleg am y math hwn o ddiod, xocolātl, sydd yn golygu 'dŵr chwerw'. Heddiw mae bron i 3/4 o gynnyrch siocled y byd yn dod o Affrica, gyda hanner y cynnyrch hwn yn dod o Arfordir Ifori.
Mae llawer o bobl ym Mhrydain Fawr yn hoff iawn o siocled. Maent yn "siocoholig", dywedir. [angen ffynhonnell] Mae hi'n bosib yfed siocled poeth hefyd.