cantores, cyfansoddwr caneuon ac actifydd Gwyddelig (1966-2023) From Wikipedia, the free encyclopedia
Cantores o Wyddeles oedd Shuhada' Sadaqat (ganwyd Sinéad Marie Bernadette O'Connor, 8 Rhagfyr 1966 – 26 Gorffennaf 2023)[1]. Daeth i amlygrwydd byd-eang yn 1990 gyda'i chân "Nothing Compares 2 U", oedd wedi ei chyfansoddi gan yr artist Prince.
Sinéad O'Connor | |
---|---|
Ganwyd | Sinéad Marie Bernadette O'Connor 8 Rhagfyr 1966 Glenageary, Dulyn |
Bu farw | 26 Gorffennaf 2023 o clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint, asthma, respiratory tract infection Llundain |
Man preswyl | Knockananna, Dalkey, Bré, Llundain |
Label recordio | Chrysalis Records, Ensign Records, Vanguard Records, One Little Independent Records, Nettwerk |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr-gyfansoddwr, gitarydd, offeiriad, actor, cyfansoddwr, cerddor, canwr roc, canwr |
Adnabyddus am | Nothing Compares 2 U |
Arddull | roc amgen, roc poblogaidd, reggae, roc gwerin, college rock, roc Geltaidd, indie pop |
Math o lais | mezzo-soprano |
Prif ddylanwad | Bob Dylan |
Tad | John O’Connor |
Priod | John Reynolds, Nick Sommerlad, Steve Cooney, Barry Herridge |
Partner | Peter Gabriel, Richard Heslop, John Waters, Dónal Lunny, Frank Bonadio |
Plant | Jake Reynolds, Roisin Waters, Shane O'Connor Lunny, Yeshua Bonadio |
Gwobr/au | Rockbjörnen, Gwobr Gerdd Billboard, Gwobr Gerdd Billboard, MTV Video Music Award for Video of the Year, MTV Video Music Award for Best Post-Modern Video, Grammy Award for Best Alternative Music Performance, BRIT Award for International Female Solo Artist, Goldene Europa, World Soundtrack Award for Best Original Song Written Directly for a Film, Choice Music Prize, CASBY Award |
Gwefan | https://www.sineadoconnor.com/ |
Fe ryddhaodd ddeg albwm stiwdio. Cafodd record aur yn y DU gyda'i albymau Am I Not Your Girl? (1992) a Universal Mother (1994),[2] roedd Faith and Courage (2000) yn record aur yn Awstralia,[3] ac roedd Throw Down Your Arms (2005) yn record aur yn Iwerddon.[4] Roedd ei gwaith yn cynnwys caneuone ar gyfer ffilm, cydweithio gyda sawl artist arall ac ymddangosiadau mewn cyngherddau elusennol. Cyhoeddoedd gofiant llwyddiannus Rememberings yn 2001.[5]
Priododd ac ysgarodd O'Connor bedair gwaith. Cafodd ei mab cyntaf, Jake, yn 1987, gyda'r cynhyrchydd recordiau John Reynolds, a cyd-gynhyrchodd nifer o'i albymau cynnar.[6] who co-produced several of her albums, including Universal Mother. Priododd y ddau yn 1989.[7] Yr un flwyddyn cafodd O'Connor erthyliad ar ôl i'r berthynas gyda'r tad ddod i ben. Ysgrifennodd y gân "My Special Child" am y profiad.[8]
Yn fuan wedi genedigaeth ei merch Brigidine Roisin Waters ar 10 Mawrth 1996, cychwynodd O'Connor a tad y ferch, y newyddiadurwr Gwyddelig John Waters, frwydr hir am warchodaeth y plentyn. Yn y pendraw cytunodd i adael Roisin fyw yn Nulyn gyda Waters.[9][7][6] Yn Awst 2001, priododd y newyddiadurwr Prydeinig Nick Sommerlad yng Nghymru; daeth y brodias i ben yng Ngorffennaf 2002.[10][6] Cafod ei thrydydd plentyn, ei mab Shane yn 2004, gyda'r cerddor Donal Lunny.[6][7] Yn 2006, cafodd ei phedwerydd plentyn, Yeshua Francis Neil Bonadio, a'r tad oed Frank Bonadio.[11][12]
Priododd O'Connor am y trydydd tro ar 22 Gorffennaf 2010, i hen ffrind a chydweithiwr Steve Cooney,[13][14] ac yn Mawrth 2011, penderfynodd y ddau i wahanu.[15] Roedd ei pedwerydd priodas i'r therapydd Gwyddelig Barry Herridge. Priododd y cwpl ar 9 Rhagfyr 2011, yn Las Vegas, ond gorffennodd y briodas ar ôl iddynt "fyw gyda'i gilydd am 7 diwrnod yn unig".[16] Yr wythnos ganlynol, ar 3 Ionawr 2012, cyhoeddodd O'Connor negeseuon ar y we yn dweud fod y cwpl wedi aduno.[17]
Newidiodd ei henw i Shuhada' Sadaqat yn 2018 ar ôl troi at Islam.
Roedd dioddef cyfnodau o anhwylderau iechyd corfforol a meddyliol yn ystod ei bywyd. Bu farw ei mab Shane yn 17 oed ym mis Ionawr 2022.[7]
Canfuwyd O'Connor yn farw yn ei chartref ar 26 Gorffennaf 2023, yn 56 mlwydd oed.[18] Cafwyd datganiad gan ei theulu yn cadarnhau ei bod wedi marw, heb ddatgan achos y farwolaeth.[19][20]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.