![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/bc/TN-18.svg/langcy-640px-TN-18.svg.png&w=640&q=50)
Sidi Bouzid (talaith)
From Wikipedia, the free encyclopedia
Talaith yng nghanolbarth Tiwnisia yw talaith Sidi Bouzid (hefyd: Sidi Bou Zid, Sidi Bou Said ac amrywiadau eraill). Mae'n gorwedd yng ngogledd canolbarth y wlad, gan ffinio ar daleithiau Kasserine i'r gorllewin, Siliana a Kairouan i'r gogledd, Sfax i'r dwyrain a Gabès a Gafsa i'r de. Sidi Bouzid yw prif ddinas y dalaith a'r unig ganolfan o bwys.
Ffeithiau sydyn Math, Prifddinas ...
Math | Taleithiau Tiwnisia ![]() |
---|---|
Prifddinas | Sidi Bouzid ![]() |
Poblogaeth | 429,912 ![]() |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC+01:00 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Tiwnisia ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 7,405 km² ![]() |
Cyfesurynnau | 35.03°N 9.5°E ![]() |
TN-43 ![]() | |
![]() | |
Cau
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/bc/TN-18.svg/320px-TN-18.svg.png)
Dominyddir daearyddiaeth y dalaith gan y Tell, tirwedd o fryniau a llwyfandiroedd agored. Mae'n ardal ddiarffordd sy'n wynebu problemau economaidd. Amaethyddiaeth yw'r prif ddiwydiant o bell ffordd.