![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/f7/Shumen%252C_Bulgaria_-_panoramio_%25284%2529.jpg/640px-Shumen%252C_Bulgaria_-_panoramio_%25284%2529.jpg&w=640&q=50)
Shumen
From Wikipedia, the free encyclopedia
Dinas yng ngogledd-ddwyrain Bwlgaria a phrifddinas Oblast Shumen yw Shumen (Bwlgareg: Шумен). Mae'r ddinas yn sefyll ar groesffordd ar yr heolydd rhwng Sofia a Varna, rhwng Ruse a Burgas a rhwng Silistra a Yambol, rhyw 80 km i'r gorllewin o Varna. Mae'n ganolfan ddiwydiannol sydd yn cynhyrchu cerbydau nwyddau trwm, cemegion, alwminiwm, brethyn, a bwydydd. Dinasoedd cyfagos yw Targovishte a Veliki Preslav. Rhwng 1950 a 1965 ei henw oedd Kolarovgrad er cof am Vasil Kolarov, arlywydd, gweinidog tramor a phrif weinidog Bwlgaria yn llywodraeth gomiwnyddol y 1940au.
Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...
![]() | |
![]() | |
Math | tref weinyddol ddinesig, tref weinyddol yr oblast, dinas ym Mwlgaria ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 81,207, 94,103 ![]() |
Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00 ![]() |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Bwrdeistref Shumen ![]() |
Gwlad | Bwlgaria ![]() |
Arwynebedd | 136.358 km² ![]() |
Uwch y môr | 184 metr ![]() |
Gerllaw | Q12291090 ![]() |
Cyfesurynnau | 43.274585°N 26.93486°E ![]() |
Cod post | 9700 ![]() |
![]() | |
Cau
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/c/cf/Shumen_location_in_Bulgaria.png)