![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/0/01/Limerick_-_Shannon_River_cropped.jpg/640px-Limerick_-_Shannon_River_cropped.jpg&w=640&q=50)
Afon Shannon
afon yn Iwerddon / From Wikipedia, the free encyclopedia
Afon fwyaf Iwerddon yw Afon Shannon (Gwyddeleg: An tSionainn).[1] Yn cynnwys yr aber, mae'n 386 km (240 milltir) o hyd. Mae'n debyg mai'r afon yma yw Afon Llinon y cyfeirir ati yn chwedl Branwen ferch Llŷr ym Mhedair Cainc y Mabinogi.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/a/a1/ShannonRiversml.png/320px-ShannonRiversml.png)
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
![]() | |
Math | afon ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 54.2347°N 7.919°W, 52.6767°N 8.7545°W ![]() |
Aber | Aber Afon Llinon ![]() |
Llednentydd | Afon Inny, Afon Feale, Afon Suck, Afon Brosna, Afon Brosna Bach, Afon Boyle ![]() |
Dalgylch | 15,700 cilometr sgwâr ![]() |
Hyd | 368 cilometr ![]() |
Arllwysiad | 200 metr ciwbic yr eiliad ![]() |
Llynnoedd | Lough Ree, Loch Deirgeirt ![]() |
![]() | |
Cau
Mae'r afon yn rhannu gorllewin a dwyrain yr ynys; dim ond mewn llai nag ugain man y gellir ei chroesi rhwng Carrick on Shannon yn y gogledd a'i haber ger Limerick, lle mae'n ymuno â Môr Iwerydd.
Yn draddodiadol, ceir tarddle'r afon yn y Shannon Pot, pwill bychan ar lechweddau Mynydd Cuilcagh yn Swydd Cavan. Mae'n llifo trwy 13 o siroedd Iwerddon, a thrwy nifer o lynnoedd, yn cynnwys Lough Allen, Lough Ree a Lough Derg.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/87/Carrick-on-Shannon_Bridge.jpg/640px-Carrick-on-Shannon_Bridge.jpg)