Sffincs a'r Aifft
From Wikipedia, the free encyclopedia
Anrhydedd brwydr a roddwyd i luoedd Prydeinig a frwydrodd yn erbyn lluoedd Napoleon yn ymgyrch yr Aifft yw'r Sffincs a'r Aifft sydd ar ffurf delwedd o Sffincs Giza a'r gair EGYPT. Rhoddwyd yn gyntaf ym 1801 i filwyr unigol a ymladdodd yn yr ymgyrch i wisgo ar eu haddurnau.[1] Ym 1802 rhoddwyd yr anrhydedd i gatrodau cyfan, 33 ohonynt,[2] a daeth yr arwyddlun yn rhan o nifer o arwyddnodau milwrol yr unedau hyn yn enwedig bathodynnau capiau a baneri catrodol.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/d/d0/South_Wales_Borderers_cap_badge%2C_showing_the_Sphinx.jpg)
Y Sffincs a'r Aifft oedd yr anrhydedd brwydr gyntaf a wobrwywyd i gatrodau yn y Fyddin Brydeinig ar gyfer ymgyrch ac nid brwydr unigol.[2]