![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/6/62/Local.group.arp.600pix.jpg/640px-Local.group.arp.600pix.jpg&w=640&q=50)
Sextans A
From Wikipedia, the free encyclopedia
Galaeth corrach afreolaidd bychan yw Sextans A (UGCA 205). Mae'n mesur tua 5000 blwyddyn goleuni ar draws ac mae'n gorwedd yn y Grŵp Lleol, y grŵp o alaethau a gwrthrychau eraill sy'n cynnwys Galaeth y Llwybr Llaethog, ein galaeth ni.
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | low-surface-brightness galaxy, dwarf irregular galaxy, HI (21cm) source, infrared source ![]() |
---|---|
Dyddiad darganfod | 1942 ![]() |
Rhan o | Grŵp Lleol ![]() |
Cytser | Sextans ![]() |
Pellter o'r Ddaear | 1.45 ![]() |
Cyflymder rheiddiol | 324 cilometr yr eiliad ![]() |
![]() |
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/6/62/Local.group.arp.600pix.jpg/320px-Local.group.arp.600pix.jpg)
Ar bellter o 4.3 miliwn blwyddyn goleuni o'r Ddaear, Sextans A yw un o'r aelodau mwyaf pellenig yn y Grŵp Lleol, ac fe'i nodweddir gan ei ffurf sgwâr anghyffredin. Credir fod hyn yn ganlyniad i ffrwydro sêr anferth byrhoedlog yn supernovae gan achosi creu rhagor o sêr a'r rhai hynny yn eu tro yn creu rhagor o supernovae wedyn, gan arwain yn y pendraw at greu plusgen ymestynnol sy'n edrych fel siâp sgwâr o safbwynt rhywun ar y Ddaear. Mae'n gorwedd yn y rhan o'r awyr a adnabyddir fel Cytser Sextans. Y galaeth agosaf iddo yw Sextans B.