![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/a/af/Entrance_to_Settat%252C_Morocco.jpg/640px-Entrance_to_Settat%252C_Morocco.jpg&w=640&q=50)
Settat
From Wikipedia, the free encyclopedia
Dinas ym Moroco yw Settat (Arabeg: سطات), sy'n brifddinas rhanbarth Chaouia-Ouardigha a préfecture talaith Settat o fewn y rhanbarth hwnnw. Fe'i lleolir 57 km o Casablanca, ar y ffordd i Marrakech. Poblogaeth: 116 570 (2004).
Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...
![]() | |
Math | dinas, urban commune of Morocco, dinas fawr ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 142,250 ![]() |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Talaith Settat, Chaouia-Ouardigha ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 290 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 33.002319°N 7.619801°W ![]() |
![]() | |
Cau
Sefydlwyd kasbah (castell) ar y safle gan y Swltan Moulay Ismail ar ddechrau'r Oesoedd Canol a thyfodd tref o'i gwmpas. Datblygodd yn sylweddol yn ail chwarter yr 20g. Cafwyd cyfnod o dwf mawr eto o'r 1970au ymlaen. Heddiw mae'n ddinas sy'n gartref i brifysgol a nifer o ysgolion. Ar gyrion y ddinas ceir ardaloedd diwydiannol sydd ymhlith y pwysicaf yn y rhan yma o'r wlad.