![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/1/11/Sarah_Bernhardt_by_Paul_Nadar_%2528crop%2529.jpg/640px-Sarah_Bernhardt_by_Paul_Nadar_%2528crop%2529.jpg&w=640&q=50)
Sarah Bernhardt
From Wikipedia, the free encyclopedia
Actores Ffrengig oedd Sarah Bernhardt (22 Hydref 1844 – 26 Mawrth 1923). Daeth yn enwog trwy Ewrop yn y 1870au, ac ymledodd ei henwogrwydd i'r Unol Daleithiau hefyd.
Sarah Bernhardt | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Rosine Bernardt ![]() 23 Hydref 1844 ![]() Paris ![]() |
Bu farw | 26 Mawrth 1923 ![]() o wremia ![]() Paris, 17fed arrondissement Paris ![]() |
Dinasyddiaeth | Ffrainc ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor llwyfan, actor ffilm, dawnsiwr, ysgrifennwr, actor ![]() |
Swydd | Sociétaire of the Comédie-Française ![]() |
Tad | Edouard Bernhardt ![]() |
Mam | Judith-Julie Bernardt ![]() |
Priod | Jacques Damala ![]() |
Partner | Samuel Pozzi ![]() |
Plant | Maurice Bernhardt ![]() |
Gwobr/au | Officier de la Légion d'honneur, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood ![]() |
llofnod | |
![]() |
Ganed hi yn ninas Paris fel Marie Henriette Bernardt, yn ferch i Julie Bernardt a thad oedd efallai o'r Iseldiroedd. Roedd ei thaid, Moritz Bernardt, yn fasnachwr Iddewig yn Amsterdam.
Dechreuodd actio yn 1862 pan oedd yn astudio yn y Comédie-Française. Er mai actio ar y llwyfan yr oedd yn bennaf, gwnaeth nifer o recordiadau o ddialogau o ddramau; y cynharaf oedd darlleniad o Phèdre gan Jean Racine, yng nghartref Thomas Edison yn Efrog Newydd yn y 1880au. Roedd yn un o arloeswyr y ffilmiau distaw, gan berfformio mewn ffilm am y tro cyntaf fel Hamlet mewn ffilm ddau funud o hyd yn 1900.
Yn 1905, anafodd ei choes tra'n perfformio yn Rio de Janeiro, ac yn 1915 bu raid torri'r goes ymaith, ond parhaodd i berfformio. Bu farw yn 1923, a chladdwyd hi ym Mynwent Père Lachaise, Paris.