From Wikipedia, the free encyclopedia
Addysgwr cerddoriaeth Saesneg a dyfeisiwr system sol-ffa Norwich oedd Sarah Ann Glover (13 Tachwedd 1785 – 20 Hydref 1867).
Fe'i ganed yn Norwich. Daeth ei thad yn gurad Eglwys Sant Laurence, Norwich, ym 1811, lle hi a'i chwaer a arweiniodd y canu digyfeiliant. Datblygodd hi ei system i ddysgu cerddoriaeth i gantorion heb wybodaeth am nodiant traddodiadol a ddefnyddiodd yr erwydd. Cafodd ei llyfr Scheme for Rendering Psalmody Congregational (1845) lwyddiant mawr. Cafodd y system ei fireinio a'i ddatblygu'n ddiweddarach gan John Curwen ac eraill dros y blynyddoedd.
Yn ddiweddarach, roedd hi'n byw yn Cromer, yna Reading, yna Henffordd. Bu farw o strôc yn Great Malvern a chladdwyd hi yno.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.