Santes a anwyd yn y 5g oedd Non (weithiau 'Nonn' a 'Nonna') wraig a sefydlodd nifer o lannau, a teithiodd i Lydaw, ac oedd yn fam Dewi Sant, nawddsant Cymru.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Non
Thumb
Ganwyd5 g Edit this on Wikidata
Sir Benfro Edit this on Wikidata
Bu farw6 g Edit this on Wikidata
Llydaw Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethlleian Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl3 Mawrth Edit this on Wikidata
TadCynyr Goch Edit this on Wikidata
PartnerSant ap Ceredig Edit this on Wikidata
PlantDewi Sant Edit this on Wikidata
Cau

Teulu Non

Thumb
Y Santes Non: ffenestr wydr lliw yng Nghapel Non, Sir Benfro

Fel holl seintiau Oes y Saint roedd hi'n ferch uchelwrol. Anhun (Saesneg: Anna), ferch Gwrthefyr Fendigaid oedd ei mam a'i thad oedd Cynyr o Gaer Gawch, pennaeth tiroedd ym Mhenfro (a elwid yn Pebidiog yn diweddarach) gan gynnwys Glyn Rhosyn ble mae Tyddewi heddiw. Roedd Non yn chwaer i Ina a Gwen o Gernyw ac yn fam i Dewi Sant, nawddsant Cymru a dwy ferch: Môr a Magna.[1]

Yn ôl Rhigyfarch, awdur y testun Cymraeg Canol, Buchedd Dewi, roedd hi'n lleian a dreisiwyd gan y tywysog Sant (neu Sanddef) fab y brenin Ceredig cyn rhoi genedigaeth i Ddewi.[2] Gellid cwestiwnu os oedd hi'n lleian. Yn Oes y Saint yr oedd Cymunedau Cristnogol yn cynnwys dynion a menywod ac yr oedd priodi yn gyffredin. Tuedd awduron yr Oesoedd Canol oedd darlunio pob santes enwog.[3] Dethlir ei dydd gŵyl ar 2, 3 neu'r 5ed o Fawrth ac ar yr ail Sul wedi Hirddydd Haf (Alban Hefin). Bu farw yn Llydaw

Cenhedlu ac Esgor ar Ddewi

Addysgwyd Non gan Meugan a sefydlodd glas yn y Tŷ Gwyn ger Porth Mawr ar diroedd ei thad. Tua'r flwyddyn 500 bu gŵr o'r enw 'Sant ap Ceredig' (neu Sanddef ap Ceredig) yn hela yn yr ardal pan ddaeth ar draws Non, a threisiodd hi. Tyfodd chwedl o gwmpas y digwyddiad: dywedir fod dwy garreg wedi ymddangos: y naill wrth ei phen a'r llall wrth ei thraed. Roedd hyn yn ymgais gan y storiwr i amddiffyn ei diweirdeb. Yn y misoedd dilynol bu Sant yn chwilio am Non gyda'r bwriad o'i lladd. Cuddiodd Non mewn bwthyn dair milltir o Lyn Rhosyn, ger y bae a elwir heddiw yn Fae y Santes Non. Pan ddaeth yr amser iddi esgor, bu Sant yn agos iawn at darganfod ei chuddfan ond rhwystrwyd ef gan storm fawr. Dywedir fod heulwen wedi torri drwy'r cymylau ynghanol y storm, gan oleuo safle'r bwthyn wrth iddi esgor. Yng nghanol ei phoenau, gwasgodd Non ei llaw ar garreg ac esgorodd ar fab, Dewi[2] Dywedir fod ôl ei llaw i'w gweld ar y garreg hyd heddiw. Adeiladwyd capel ar safle'r bwthyn yn ddiweddarach a defnyddiwyd y garreg gyda'r ôl ei llaw fel allor. Heddiw, mae olion adeilad sy'n dyddio o'r 8g ar y safle. Ni bu sôn pellach am Sant. Aeth Non i fyw ar arfordir Ceredigion, gan sefydlu llan ar safle pentref Llan-non, Ceredigion.

Teithiau Non

Dechreuodd Non deithio pan aeth Dewi i'r Tŷ Gwyn i dderbyn ei addysg. Sefydlodd hi nifer o lannau eraill: un yn Sir Gaerfyrddin, un ym Morgannwg ac un ym Maesyfed. Cafodd ddwy ferch: Môr a Magna. Symudodd i Gernyw a sefydlodd lan yn Alternon (allor-Non). Defnydddiwyd ychen i dynnu ei allor symudol i'r safle. Aeth wedyn i Lydaw lle bu farw. Ceir beddrod Non yn Nirinonn, Penn-ar-Bed (Finisterre), Llydaw. Dwedir mai tardiadd enw'r plwyf yw naill ai cywasgiad o'r enw Dewi a Non neu'r gair am goed derw sef 'deri Non'[4]. Am ganrifoedd perfformid y ddrama firagl Lydaweg Buhez Santez Nonn (Buchedd Santes Non) yno.

Traddodiadau

Cuddir manylion hanes Non yn aml dan y pennawd "Dewi Sant", ond nid yw hyn yn gwneud cyfiawnder â hi.[5] Yn yr Oesoedd Canol datblygodd y camsyniad fod Non yn lleian (yn yr ystyr Catholig) oherwydd tebygrwydd ei henw â "nonna", y gair Lladin am leian, gan anwybyddu enwau o wledydd Celtaidd yn llwyr. Ychwanegodd awduron Oes Fictoria y camsyniad fod yna ddau sant a elwid Non, un yn fam i Dewi a'r llall yn ddyn oedd yn teithio a chenhadu.[6] Ond mae enwau llannau, eglwysi a ffynhonnau yn dystiolaeth iddi fod yn ferch weithgar, yn genhades ac yn deithiwr diflino.[7]

Llefydd a Cysylltir â Non

Mae Capel Non ar lan Bae Sain Ffraid ym Mhenfro gyda'r bwthyn ble esgorodd ar Ddewi. Ffrydiodd ffynnon o'r tir ger y man ble bu iddi esgor. Erys yn ffynnon sanctaidd hyd heddiw.

Daeth y werin i gredu fod nifer o'i ffynhonnau yn gallu iachau. Credwyd fod dŵr ei ffynnon yn medru iacháu gwynegon, afiechydon y llygaid a chur pen. Cofnodwyd fod trigolion lleol yn parhau â'r arfer o daflu pinnau bach, darnau o bres a cherrig mân i'r ffynnon, fel offrwm, hyd at dechrau'r 19g. Ceir nifer o ffynhonnau a elwir Ffynnon Non ar draws de Cymru, Cernyw a Llydaw.[8] Mae eglwysi Pelynt yng Nghernew a Bradstone yn Nyfnaint hefyd wedi'u cysegru iddi. Yn 1934 adeiladwyd capel Catholig wedi cysegru i Non ger y fan lle esgorodd ar Ddewi. Adeiladwyd y capel mewn dull tebyg i'r capeli cerrig cynharaf ac yn cynnwys cerrig a ddaeth yn wreiddiol o eglwysi ond a gasglwyd o adfeilion bythynnod a muriau yn yr ardal.

Mytholeg

Mae nifer o draddodiadau Celtaidd paganaidd wedi eu hychwanegu at hanes Non gyda threiglad amser. Mae hi wedi uniaeithu gyda'r dduwies Geltaidd Dana ym meddwl a credoau'r werin. Priodolir rhinweddau Annonna, duwies Rhufeinig y cynhaeaf iddi hi. Wrth i Grisnogaeth ledu dros Ewrop llenwid safle'r dduwiesau hyn gan Ann, mamgu Iesu, ond glynodd y Celtiaid at eu santes brodorol.

Oriel

Eglwysi a llefydd a enwyd ar ôl Non

Rhestr Wicidata:


Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Gweler hefyd

Llyfryddiaeth

  • D. Simon Evans (gol.), Buched Dewi (Caerdydd, 1959).

Cyfeiriadau

Wikiwand in your browser!

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.

Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.